Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth £4 miliwn ar gyfer Tata Steel yn dilyn ymweliad â safle'r cwmni ym Mhort Talbot.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y buddsoddiad yn galluogi Tata Steel i ddarparu nifer o brosiectau hyfforddi penodol i gryfhau sgiliau craidd y gweithwyr a'u helpu i ddatblygu technegau gweithgynhyrchu a pheirianneg uwch ar draws y busnes. Lluniwyd y rhain i wella effeithlonrwydd a chynyddu cynhyrchiant er mwyn helpu Tata Steel i fodloni galwadau cynyddol y diwydiant dur cystadleuol iawn yn fyd-eang.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Rydyn ni'n parhau i weithio'n agos iawn gyda Tata Steel i helpu eu cynlluniau i ddatblygu'r busnes a bod yn fwy arloesol, cynhyrchiol ac effeithlon.

"Mae Tata Steel wedi gwneud ymrwymiad sylweddol i gyflwyno rhaglen amrywiol iawn o brosiectau hyfforddi penodol ar draws pob safle yng Nghymru. Mae'r buddsoddiad rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn dangos ein hymrwymiad llwyr i'r cwmni wrth ddatblygu'r agenda uchelgeisiol hon."

Mae Tata Steel wedi nodi nifer o flaenoriaethau busnes allweddol gan gynnwys anelu at fod yn feincnod i'r diwydiant dur byd-eang ar gyfer creu gwerth a dinasyddiaeth gorfforaethol, cynnal sgiliau sylfaenol drwy recriwtio, cadw a hyfforddi eu prentisiaid, hyfforddeion a gweithwyr a pharhau i gyfrannu'n gadarnhaol i economi Cymru a thu hwnt.

Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd llefarydd ar ran Tata Steel:

"Rydyn ni'n hynod o falch bod Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi cydnabod pwysigrwydd hyfforddi a gwella sgiliau'r gweithlu.

"Mae dros 80% o'n gweithwyr yng Nghymru wedi elwa'n uniongyrchol o hyfforddiant mewn meysydd fel iechyd a diogelwch, busnes a rhagoriaeth cynnal a chadw yn ogystal â llu o feysydd eraill, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru.

"Mae hyn yn caniatáu i ni sicrhau bod modd i'n gweithwyr wneud mwy, sydd yn ei dro yn golygu eu bod mewn gwell sefyllfa i gefnogi holl economi Cymru."