Neidio i'r prif gynnwy

Y bwriad yw y bydd y ddwy theatr yn agor ym mis Mawrth 2018.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y bwriad yw y bydd y ddwy theatr yn agor ym mis Mawrth 2018. 

Bydd y cyllid cyfalaf hwn yn galluogi'r byrddau iechyd i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â’r seilwaith sydd wedi arwain at gau dwy theatr yn 2016, yn ogystal ag ystafell endosgopi yn gynharach eleni. 

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi rhoi systemau ar waith er mwyn amharu llai ar y gwasanaethau hyn yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae hyn yn cynnwys llogi dwy theatr symudol am chwe mis. Y Bwrdd Iechyd fydd yn ariannu hyn a byddant yn barod erbyn mis Ionawr 2018. Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer y ddwy theatr fodiwlar yn darparu cyfleusterau newydd a mwy cadarn i bobl Wrecsam a'r cyffiniau am y 10 mlynedd nesaf o leiaf. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

"Mae'n flaenoriaeth sicrhau bod gan bobl Cymru fynediad at y gwasanaethau gofal iechyd diweddaraf mewn amgylchedd diogel. Rwy'n falch o gyhoeddi dros £3m o gyllid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gymryd y camau sydd eu hangen i wella cyfleusterau Ysbyty Maelor Wrecsam. 

"Yn ogystal â hynny, bydd hyn yn galluogi gweithwyr iechyd proffesiynol i weithio'n effeithlon a darparu gofal o ansawdd uchel i gleifion yn Wrecsam a'r cyffiniau, gan hefyd gyrraedd y safonau perfformiad gofynnol." 

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gary Doherty: 

"Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ers i'r theatrau yn Ysbyty Maelor Wrecsam gau, ac rydyn ni'n falch iawn bod arian yn cael ei roi i osod dwy theatr fodiwlar newydd ar gyfer llawdriniaethau dydd. Byddwn hefyd yn gosod ystafell endosgopi diolch i adnoddau cyfalaf lleol. 

"Rydyn ni'n falch ein bod wedi gallu mynd ati'n syth i wella'r sefyllfa. Bydd y cyfleusterau newydd hyn yn sicrhau y bydd pobl Wrecsam a'r cyffiniau yn parhau i gael gwasanaeth o ansawdd uchel yn y dyfodol."