Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £3m yn ychwanegol yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn gwella a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae galluogi pobl i ddefnyddio'r iaith yn y gwaith, ynghyd â sicrhau bod gan y cyhoedd fynediad at wasanaethau Cymraeg o safon uchel, yn hanfodol er mwyn cyrraedd ein targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy'n gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth strategol i'r sector Cymraeg i Oedolion. Mae hyn yn cynnwys datblygu a darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn y gweithle, yn arbennig ar gyfer cyrff sy'n glynu wrth safonau'r Gymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda'r Ganolfan Genedlaethol i ddatblygu cynllun ar gyfer yr arian ychwanegol sydd wedi'i glustnodi yng nghytundeb cyllideb 2017-18 gyda Phlaid Cymru.

Mae pum rhan i'r Cynllun:

  • Gwybodaeth a chyngor i gyflogwyr ‘Cymraeg Gwaith’
  • Cyrsiau croeso / derbyniad ar- lein ‘Croeso Cymraeg Gwaith’
  • Cyrsiau Dwys ‘Dysgu Cymraeg Gwaith’
  • Cyrsiau ar gyfer gweithlu'r blynyddoedd cynnar ‘Cymraeg Cynnar’
  • Cyrsiau preswyl i godi hyder a darparu terminoleg arbenigol 'Defnyddio Cymraeg Gwaith'

Dywedodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg, wrth Aelodau'r Cynulliad:

"Nod y Llywodraeth hon yw sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn unol â'r uchelgais a rannwn gyda Phlaid Cymru, rydym yn neilltuo £3m yn ychwanegol i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio ar lefel ehangach, ac annog mwy o bobl i'w defnyddio.

"Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i roi cymorth ymarferol i gyrff, gan sicrhau eu bod yn gallu darparu gwasanaeth dwyieithog eithriadol i'r cyhoedd, a chydymffurfio â safonau'r Gymraeg."

Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

"Rydym yn croesawu'r cyllid ychwanegol hwn a fydd yn caniatáu i'r Ganolfan adeiladau ar yr hyn sydd eisoes wedi'i gyflawni yn y sector Cymraeg i Oedolion yn y misoedd diwethaf, a rhoi mwy o gefnogaeth i dargedau’r Llywodraeth ar gyfer y Gymraeg.

"Mae rhoi blaenoriaeth i ddysgwyr yn ganolog i waith y Ganolfan, a bydd y cyllid hwn yn arwain at fwy o gyfleoedd i unigolion sydd am ddysgu a gwella eu Cymraeg, i wneud hynny gyda chefnogaeth eu cyflogwr.

"Bydd y cyrsiau 'Cymraeg Gwaith' yn cael eu darparu ochr yn ochr â'r ddarpariaeth bresennol, ac rydym yn edrych ymlaen at gael gweithio gyda phartneriaid, cyflogwyr a'r Llywodraeth i gyflwyno'r rhaglen ddysgu newydd hon, a fydd yn cynnwys elfennau rhyngweithiol arloesol."