Neidio i'r prif gynnwy

Mae tri ar hugain o brosiectau adnewyddu mewn deuddeg awdurdod lleol ar fin derbyn hwb o £3.7 miliwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Carl Sargeant heddiw gyllid ar gyfer y prosiectau sy’n cynnwys creu cyfleusterau 3G newydd gyferbyn â’r stadiwm presennol ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn a fydd yn diogelu 17 o swyddi. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio hefyd ar gyfer y gwaith o ddatblygu eiddo masnachol yn Abertawe er mwyn caniatáu creu 40 o swyddi; bydd dymchwel tafarn sydd bellach yn adfail yn caniatáu adeiladu 28 o gartrefi fforddiadwy newydd; a bydd hefyd yn caniatáu cynnig llety â chymorth ar gyfer hyd at 8 o bobl ddigartref bob blwyddyn yng Nghaernarfon.

Mae’r arian sy’n dod o’r rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn gyfuniad o gyllid sydd newydd ei neilltuo ac arian a danwariwyd sy’n cael ei ailneilltuo o brosiectau eraill.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:

“Mae’r swm ychwanegol o £3.7 miliwn yn hwb mawr i’r pump ar hugain o brosiectau adnewyddu ledled Cymru a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w cymunedau lleol.

“Yn ogystal â gwella gwasanaethau a chyfleusterau lleol pwysig, bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i greu swyddi a chyfleoedd hyfforddi, cynyddu’r cyflenwad tai a chreu amgylchedd lle bydd modd i fusnesau bach ffynnu.

“Mae’r prosiectau hyn yn enghraifft wych o’r modd y gall cyllid adnewyddu gael ei ddefnyddio i gefnodi gwelliannau pwysig a fydd o les i gymunedau cyfan.”