Heddiw, mae Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd dros Iechyd, wedi cyhoeddi bod mwy na £36 miliwn yn cael ei roi i barhau â’r gwaith o ailwampio Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr.
Bydd y cyllid gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i barhau â’r gwaith o ailwampio llawr gwaelod yr ysbyty, a darparu prif gegin, ardal fwyta a fferyllfa newydd.
Dylai’r gwaith ar y prosiect ddechrau ym mis Ionawr 2019 a chael ei gwblhau erbyn y gwanwyn 2021.
Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd dros Iechyd:
“Rwyf wrth fy modd o allu cyhoeddi’r cyllid sylweddol cyntaf ar gyfer Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr.
“Bydd yr ailwampio hwn yn gwella’r amgylchedd gweithio ar gyfer staff yn yr ysbyty ond hefyd yn cefnogi’r gwaith o ddarparu’r math o ofal iechyd modern rydyn ni’n awyddus i’w weld yng Nghymru.
“Rwy’n siŵr y bydd yn rhoi hwb i ysbryd staff ond bydd hefyd o fudd mawr i’r cleifion a fydd yn dod i’r ysbyty, a’r ardal gyfan.
"Rwy'n disgwyl i'r gwaith hwn ddod â manteision economaidd sylweddol i'r gymuned drwy ddefnyddio llafur ac isgontractwyr lleol. Rwyf hefyd yn disgwyl i'r prosiect greu prentisiaethau a chyfleoedd i ymgysylltu ag ysgolion yn yr ardal leol."
Dywedodd Ruth Treharne, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf:
“Rydyn ni wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r cam nesaf o ailwampio’r llawr gwaelod a’r llawr cyntaf yn Ysbyty y Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful.
“Bydd llawer o fudd yn dod o’r cyllid hwn. Ymhlith pethau eraill, bydd yn cael ei wario ar gyfer darparu prif gegin newydd, ardal fwyta a fferyllfa newydd. Bydd hyn yn ein helpu i fodloni ein gofynion statudol ond hefyd yn darparu gwell amgylchedd ar gyfer ein staff a’n cleifion.”