Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ymweld â datblygiad Collier's Way Cyngor Abertawe ym Mhenlan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae datblygiad Collier's Way yn cynnwys 18 o dai cyngor sydd wedi'u hadeiladu yn ôl safonau PassivHaus. Mae hynny'n golygu eu bod yn effeithlon iawn o ran ynni ac felly'n sicrhau biliau tanwydd isel iawn. Mae Cyngor Abertawe'n adeiladu mwy o gartrefi ar y safle, gan ymgorffori technoleg batri, paneli solar a phympiau gwres ffynhonnell aer, diolch i gyllid gan y Rhaglen Tai Arloesol.

Bydd y Gweinidog hefyd yn ymweld â'r Ganolfan Adeiladau Ynni Gweithredol ym Mhrifysgol Abertawe er mwyn gweld sut mae'r ganolfan ymchwil a datblygu'n defnyddio technoleg adnewyddadwy a thechnegau inswleiddio modern i helpu i leihau biliau tanwydd ac allyriadau carbon wrth ddylunio tai. 

Dywedodd Julie James:

“Eleni, gall darparwyr tai cymdeithasol a'r sector preifat wneud cais am gyfran o’r £35m i brofi technolegau newydd a ffyrdd newydd o weithio wrth adeiladu tai.

“Roedd adroddiad gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yr wythnos diwethaf wedi nodi maint yr her o'n blaenau, os ydyn ni am ddatblygu tai sy'n cyfrannu at fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Mae'r Rhaglen Tai Arloesol yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu'r dechnoleg i gefnogi hynny.

“Rydyn ni'n ceisio gwthio'r ffiniau o ran y math o arloesi a graddau'r arloesi sy'n cael eu cefnogi yn ystod y drydedd flwyddyn hon o'r rhaglen. Mae'r rhaglen yn cynnig cyfle pwysig i allu darparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel sy'n helpu i leihau tlodi tanwydd a lleihau effaith adeiladu tai ar yr amgylchedd.

“Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yn y rhaglen yn golygu bod Cymru mewn sefyllfa dda i bennu sut y bydd cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy yn cael eu hadeiladu yn y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at weld prosiectau cyffrous yn gwneud cais am gyllid, fel y gallwn ni greu tai arloesol hardd yng Nghymru.”

Hyd yma, ymhlith y prosiectau sy'n cael eu hariannu y mae ‘active homes’ sy'n cael eu hadeiladu yng Nghastell-nedd gan y Grŵp Pobl – maen nhw'n croesawu eu tenantiaid cyntaf ym mis Gorffennaf. Mae Tŷ Solar yn cyflwyno nifer o gynlluniau yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Mae'r tai'n cael eu hadeiladu gan ddefnyddio pren o goed lleol sy'n cael ei gyflenwi gan gadwyni cyflenwi lleol, a phob tŷ pren yn cael ei bŵer o baneli solar. 

Dywedodd y Cynghorydd Andrea Lewis, Aelod o'r Cabinet dros Dai ac Ynni yng Nghyngor Abertawe:

“Mae'r ffaith bod y cyllid hwn ar gael drwy'r Rhaglen Tai Arloesol wedi galluogi Cyngor Abertawe i ddatblygu llety modern o ansawdd uchel i'n tenantiaid yn y ddinas. 

“Rydyn ni'n credu bod gan bawb yr hawl i gael cartref cynnes, diogel a fforddiadwy.

“Rydyn ni newydd gymeradwyo cynlluniau ychwanegol i greu hyd yn oed fwy o dai yn y ddinas, a nifer o'r cynlluniau'n cael eu datblygu'n 'dai sy'n orsafoedd pŵer' – mae hynny wedi rhoi'r cyfle inni archwilio ffyrdd o ddefnyddio'r dechnoleg fodern sydd ar gael a fydd yn galluogi pob cartref i gynhyrchu ynni ei hunan. 

“Rwy'n croesawu'r cyllid diweddar hwn a gyhoeddwyd gan y Gweinidog, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd o fudd i Abertawe a gweddill Cymru.”