Neidio i'r prif gynnwy

£32 miliwn i leihau’r risg o lifogydd i fwy na 2,100 o gartrefi a busnesau ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Caiff yr arian ei neilltuo ar gyfer 2017-18, a dyma’r gyllideb grant fwyaf ers sawl blwyddyn ar gyfer lleihau’r risg o lifogydd.  Mae’n dangos y flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i helpu cymunedau.  

Yn ddiweddarach heddiw, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn esbonio yn y gynhadledd genedlaethol ar Ddysgu Byw gyda Llifogydd y gwaith mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i helpu’r rheini sy’n byw â’r perygl o lifogydd.

Yn ei haraith, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau hefyd bod y Llywodraeth, dros ei thymor pum mlynedd, am fuddsoddi dros £144miliwn o gyllid cyfalaf i reoli’r perygl o lifogydd, hynny ar ben y £150 miliwn i’r rhaglen arfordirol. O hwnnw, caiff £5 miliwn ei wario ar ddylunio a datblygu prosiectau i leihau’r risg ar yr arfordir.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn defnyddio’i haraith hefyd i gyhoeddi y caiff £1 miliwn o’r gyllideb llifogydd ei chlustnodi bob blwyddyn am y pedair blynedd nesaf i gefnogi prosiectau bach a chynnal a chadw Awdurdodau Lleol.

Penderfynwyd hynny yn sgil treial llwyddiannus o gynllun grant i gefnogi gwaith bach a ariannodd 73 o brosiectau i leihau’r risg i 700 eiddo ledled Cymru.  Mae hyn yn profi nad cynlluniau mawr drud yn unig sy’n gwneud gwahaniaeth i gymunedau.

Wrth siarad cyn y gynhadledd heddiw, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Mae llifogydd yn gallu cael effaith ddinistriol ar fywydau pobl. Rydyn ni’n gwybod bod yr hinsawdd a phatrymau’r tywydd yn newid ac y byddwn yn debygol o weld mwy o lifogydd o’r herwydd. Mae angen inni felly gwneud popeth yn ein gallu i leihau’r risg i’n cymunedau ond gan eu helpu hefyd i addasu i’r peryglon sydd y tu hwnt i’n rheolaeth.

“Mae’n dda gen i gadarnhau ein bod am neilltuo £32 miliwn yn 2017-18, ein cyllideb cyfalaf fwyaf yn y blynyddoedd diwethaf, i helpu i leihau’r risg o lifogydd i filoedd o gartrefi a busnesau. Mae hyn yn tanlinellu’n blaenoriaeth i ddiogelu a chryfhau cymunedau rhag llifogydd.”

Caiff newidiadau eu gwneud hefyd i wneud yn siŵr bod ein cyllid a’n sylw yn canolbwyntio ar yr ardaloedd sy’n wynebu’r peryglon mwyaf. Caiff rhaglenni eu blaenoriaethu yn y dyfodol trwy ddefnyddio’r Gofrestr Risgiau Cymunedol, gwybodaeth leol a data am lifogydd y gorffennol.