Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, wedi cyhoeddi heddiw swm ychwanegol o £30m ar gyfer Cronfa Datblygu Eiddo Cymru.
Rhagwelir y bydd y gronfa benthyg, a fydd yn galluogi busnesau bach a chanolig eu maint i gael cyllid fforddiadwy, yn helpu mwy o gwmnïau lleol i adeiladu cartrefi newydd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai blaengaredd a chynnydd yn rôl adeiladwyr cartrefi BBaCh yn helpu i ddod o hyd i gynlluniau eraill i'r model presennol o adeiladu tai.
Dywedodd Carl Sargeant:
"Cafodd adeiladwyr cartrefi BBaCh eu taro'n arbennig o wael gan yr argyfwng economaidd byd-eang ac maen nhw'n dal i deimlo'r effeithiau. Gobeithio y bydd ehangu'r Gronfa Datblygu Eiddo yn cael effaith sylweddol drwy helpu busnesau bach a chanolig eu maint sy'n adeiladu cartrefi ac annog mwy o gwmnïau lleol i fynd yn ddatblygwyr.
"Rydyn ni wedi pennu targed uchelgeisiol o greu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y llywodraeth hon. Wrth i ni weithio i gwrdd â'n targed, rwyf am weld cynifer o dai â phosibl yn cael eu darparu gan fusnesau bach a chanolig eu maint gan ddatblygu capasiti newydd yn y sector. Rwyf am weld pobl yn meddwl o'r newydd am sut y gallwn wneud pethau'n wahanol er mwyn mynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu ni i gyd."
Bydd y gronfa benthyg sy'n cael ei rhedeg gan Gyllid Cymru yn cefnogi cwmnïau adeiladu bach a chanolig eu maint nad ydynt yn gallu dod o hyd i gyllid fforddiadwy o ffynonellau traddodiadol er mwyn datblygu prosiectau i adeiladu cartrefi newydd.
Dywedodd Cenydd Rowlands, Rheolwr Cronfa Eiddo Cyllid Cymru:
"Mae’r £30m ychwanegol yn hwb mawr i’r gronfa a hefyd, gyda thîm mwy o faint yn ei le, mae’n dda gennym allu rhoi cymorth i ragor o ddatblygwyr bach a chanolig eu maint. Bydd y prosiectau preswyl a chymysg eu defnydd y gallwn eu hariannu yn cael effaith uniongyrchol ar eu cymunedau lleol drwy sicrhau cyfleoedd am swyddi yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol yn ogystal â darparu tai o safon y mae gwir eu hangen."