Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn darparu £30m i gynghorau Cymru er mwyn gwella cyflwr y ffyrdd yn eu hardaloedd.
Bydd y buddsoddiad pwysig hwn mewn ffyrdd lleol, sy'n cael ei rannu rhwng pob awdurdod lleol, yn helpu i roi sylw i broblemau ac atal dirywiad yn y rhwydwaith.
Dywedodd Alun Davies,
"Ers i mi ddechrau yn fy swydd, mae awdurdodau lleol wedi bod yn dweud yn glir wrtha i bod pwysau ar y rhwydwaith ffyrdd, ac nad yw cyflwr y ffyrdd lleol mewn rhai rhannau o Gymru yn cyrraedd safon ddiogel.
"Rwy'n falch iawn felly o fedru rhyddhau'r cyllid hwn er mwyn cefnogi rhaglen adnewyddu gynhwysfawr a chadarnhau rhwydwaith ffyrdd yr awdurdodau lleol at y dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Drafnidiaeth:
“Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am wrando ar ein galwadau am gyllid pellach i gynnal y rhwydwaith priffyrdd. Mae trigolion, busnesau a thwristiaid ar draws Cymru’n dibynnu ar ein ffyrdd bob dydd, ac felly mae’n hollbwysig sicrhau eu bod mewn cyflwr da. Rydym yn croesawu’r cyllid hwn wrth i gynghorau fynd ati i weithredu cynlluniau rheoli asedau priffyrdd.”
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Gyllid ac Adnoddau:
“Bydd y cyllid hwn yn lleihau rhywfaint o’r pwysau a wynebir gan gynghorau wrth gynnal a gwella cyflwr y ffyrdd yn eu hardaloedd. Rydym yn falch bod trafodaeth adeiladol ac agored â Llywodraeth Cymru wedi arwain at y buddsoddiad hwn. Edrychwn ymlaen at barhau â’r drafodaeth hon er mwyn canfod atebion cynaliadwy i’r heriau ariannol a wynebir gan lywodraeth leol.”
Mae'r £30m yn fuddsoddiad unigol a fydd yn seiliedig ar fformiwla ddyrannu sydd eisoes wedi'i sefydlu ar gyfer y priffyrdd.
Cyhoeddwyd y cyllid yn wreiddiol fel rhan o Gyllideb Derfynol 2018-19, a oedd yn gosod cyfres o ddyraniadau refeniw newydd i Gymru o ganlyniad i gyllid canlyniadol a dderbyniwyd o Gyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU.