Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Llywodraeth Cymru'n buddsoddi bron £300,000 eleni i greu mwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan yn y celfyddydau a diwylliant a chynyddu nifer y gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn y sector.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth annerch Cynhadledd Gwirfoddoli mewn Treftadaeth y DU, cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates fod rhaglen Cyfuno lwyddiannus Llywodraeth Cymru, a ddenodd bron 5000 o bobl i fyd diwylliant a'r celfyddydau yn ei chyfnod peilot, yn cael para am flwyddyn arall, diolch i hwb ariannol o £28,000 gan Lywodraeth Cymru. 

Ers ei chychwyn yn 2015, mae'r rhaglen Cyfuno wedi darparu amrywiaeth eang o brosiectau i bobl ifanc ac oedolion sydd wedi agor eu llygaid i’r posibiliadau sydd ar gael a hybu eu hyder, eu sgiliau a’u cymwysterau drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol. 

Diolch i'r rhaglen, mae pobl ifanc wedi cymryd yr awenau mewn amgueddfeydd a chestyll, mae gweithiau celf enwog wedi ymweld ag ysgolion cynradd a chafodd opera ei pherfformio ar fws ysgol. 

Mae’r amrywiaeth o gyfleoedd i oedolion wirfoddoli mewn amgueddfeydd a sefydliadau ym myd y celfyddydau wedi helpu oedolion i ennill sgiliau a chymwysterau newydd sydd wedi arwain at swydd mewn rhai achosion.

Bydd yr arian diweddaraf o dan raglen Cyfuno yn cynnal cam newydd y rhaglen a fydd yn canolbwyntio ar gydweithio mewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru ac yn hoelio sylw ar y blynyddoedd cynnar, cyflogadwyedd a sgiliau, dysgu, ac iechyd a lles, sef ein meysydd blaenoriaeth. 

Bydd hefyd yn ceisio rhoi mwy o gyfleoedd i bobl wirfoddoli yn y byd diwylliannol y celfyddydau. 

Wrth siarad am estyn y rhaglen Cyfuno, dywedodd Ken Skates: 

"Rydyn ni'n gwybod bod diwylliant a'r celfyddydau'n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl gan helpu i ennyn eu hyder, rhoi diddordebau newydd iddyn nhw all para oes, cynyddu lefelau gwella’u eu sgiliau a'u helpu i gael gwaith a hyfforddiant. 

"Roedd cam peilot ein rhaglen Cyfuno yn llwyddiant mawr, gan ddenu bron 5,000 o bobl i ddiwylliant a'r celfyddydau a’u galluogi i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o brosiectau. 

"Rwy'n falch iawn felly ein bod wedi cael estyn y rhaglen am flwyddyn arall a'n bod yn gallu rhoi £280,000 i awdurdodau lleol, cymdeithasau tai ac elusennau i ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl drwy ddiwylliant. 

"Rwy'n falch o gael cyhoeddi partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) fydd yn gweithio i ddatblygu a helpu gwirfoddolwyr diwylliannol a bydd yr elusen Kids in Museums yn parhau â’i gwaith arloesol i rymuso pobl ifanc. Bydd y ddau yn canolbwyntio ar y rheini sydd anoddaf eu cyrraedd ac a fydd yn debygol o elwa fwyaf." 

Mae Amgueddfa Cymru wedi bod ar flaen y gad yn mynd i’r afael a thlodi ac allgáudrwy gynnig cyfleoedd i gymryd rhan yn rhaglen arloesol Cyfuno. Dywedodd Nia Williams, Cyfarwyddwr Dysgu ac Ymgysylltu yr Amgueddfa:

“Rydyn ni’n falch iawn o glywed cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet am raglen sydd wedi llwyddo i ennyn diddordeb pobl ifanc yn eu treftadaeth a’u diwylliant. Mae hefyd wedi galluogi sefydliadau sy’n gweithio mewn sectorau gwahanol i fynd i’r afael ag effaith tlodi yng Nghymru gyda’i gilydd.

“Er enghraifft, yn Amgueddfa Cymru, mae ein Cydlynydd Gwirfoddoli wedi cynnal gweithdai ar reoli gwirfoddolwyr a gweithio mewn partneriaeth ar gyfer partneriaid sy’n gweithio yn yr Ardaloedd Arloesi ar draws Cymru. Mae pump ardal arloesi wedi cael yr hyfforddiant hwn gyda thros 50 o bobl yn bresennol yn y gweithdai.

“Diolch i barhad yr arian, gallwn barhau i helpu prosiectau ar draws Cymru.”