Mae Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi y bydd pum prosiect newydd arall yn cael £3.2 miliwn drwy Gronfa Bontio’r UE er mwyn helpu i baratoi ar gyfer yr heriau a ddaw i ganlyn Brexit.
Bydd mwy na £1.2 miliwn yn helpu i gefnogi gwaith ymchwil ar reoli pysgodfeydd yn y dyfodol. Mae’n bosibl y bydd ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn arwain at newidiadau mawr i’r ffordd y mae pysgodfeydd yn cael eu rheoli yn y DU, a hynny oherwydd problemau’n ymwneud â mynediad at ddyfroedd, rhannau cwotâu, a rhwystrau tariff a di-dariff. Bydd y prosiect hwn yn helpu i nodi pysgodfeydd a chyfleoedd newydd yng Nghymru.
Bydd swm cychwynnol o £700,000 yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu gwerthoedd brand cynaliadwy a fydd yn fodd i dynnu sylw at gynhyrchion bwyd o Gymru wrth i’r farchnad newid.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael £700,000 i’w helpu i sefydlu trefniadau pontio ar gyfer trwyddedu ac i ddod o hyd i atebion ar gyfer y cyfnod ar ôl Brexit.
Bydd swm pellach o £550,000 yn helpu i fodloni rheolau llym yr UE ar ddeunyddiau pecynnu pren sy’n dod i’r UE o drydydd gwledydd, a bydd £96,000 yn helpu i ddiwallu’r angen posibl am Dystysgrifau Iechyd Allforio er mwyn allforio cynnyrch sy’n dod o anifeiliaid o Gymru i’r UE, os bydd y DU yn gadael y farchnad sengl.
Cyhoeddwyd Cronfa Bontio’r UE, sy’n werth £50 miliwn, ym mis Ionawr 2018 ac mae eisoes yn rhoi cymorth ariannol uniongyrchol i sectorau ledled Cymru gynllunio a pharatoi ar gyfer y newidiadau mawr a ddaw i ganlyn Brexit.
Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y bydd cymorth gwerth miliynau o bunnoedd yn cael ei roi ar gyfer gweithgynhyrchu uwch drwy Gronfa Bontio’r UE er mwyn helpu rhai o’n cwmnïau mwyaf i wella sgiliau a pharatoi ar gyfer byd ar ôl Brexit.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn manylu ar y pum prosiect newydd yn ddiweddarach heddiw yng nghyfarfod ei grŵp Bord Gron ar Brexit.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Bydd y DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ymhen cwta chwe mis ac mae cryn risg na fydd cytundeb. Byddai ymadael â’r UE heb gytundeb yn cael effaith drychinebus ar ein heconomi ac ar swyddi. Mae’r gyfres ddiweddaraf o nodiadau technegol yn tynnu sylw unwaith eto at y posibilrwydd o fyd llawn beichiau newydd, biwrocratiaeth, aflonyddwch ac ansicrwydd.
“Dyna pam y mae mor bwysig bod ein diwydiannau’n eu rhoi eu hunain yn y sefyllfa orau bosibl a’u bod yn paratoi ar gyfer byd ar ôl Brexit. Rydyn ni wedi dweud o’r dechrau un mai’n gwaith ni fel llywodraeth yw gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu sectorau i baratoi ar gyfer yr heriau hynny ac i addasu er mwyn ymdopi â nhw.
“Felly, mae’n bleser cael cyhoeddi heddiw y bydd pum prosiect newydd yn cael £3.2 miliwn drwy Gronfa Bontio’r UE − mae’n gam mawr ymlaen o ran helpu’n diwydiannau i baratoi ar gyfer yr hyn sydd o’u blaen. Rydyn ni wedi buddsoddi cyfanswm o £6 miliwn drwy’r gronfa ar gyfer prosiectau sy’n gysylltiedig â ’mhortffolio i, gan roi cymorth hollbwysig ar yr adeg dyngedfennol hon.
“Gwyddwn y bydd ymadael â’r UE yn arbennig o anodd i’r diwydiant pysgota a’r diwydiant bwyd. Bydd y cyllid a gân’ nhw drwy’r gronfa hon yn helpu i sicrhau eu bod yn manteisio i’r eithaf ar unrhyw gyfleoedd a ddaw i’r amlwg, eu bod yn parhau i fedru cystadlu wrth i farchnadoedd newid, a’u bod yn ffynnu mewn byd ar ôl Brexit.”