Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi £3m ychwanegol y flwyddyn i gefnogi gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru.
Dywedodd Mr Gething y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i barhau i ariannu gwasanaethau awtistiaeth ar ôl i'r £13m o gyllid cychwynnol ar gyfer cynlluniau peilot y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ddod i ben yn 2021. Hefyd, cyhoeddodd gynlluniau ar gyfer adolygiad o'r galw a chapasiti i sicrhau bod gwasanaethau awtistiaeth a niwroddatblygiadol yn gynaliadwy yn y tymor hir.
Meddai'r Gweinidog:
Mae'r gwasanaeth awtistiaeth integredig yn codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ledled Cymru, gan wella mynediad at wasanaethau asesu a diagnosis a darparu cymorth arbenigol ychwanegol ym mhob rhanbarth.
Bydd yr arian yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn sicrhau bod ein hymrwymiad i wella gwasanaethau awtistiaeth yn cael ei gyflawni yn y tymor hir. Yn ogystal â hyn, rwy'n comisiynu adolygiad i wneud yn siŵr bod gwasanaethau yn diwallu anghenion pobl a bod yr arian yn cael ei fuddsoddi yn lle y mae ei angen.