Mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio Rebecca Evans wedi cyhoeddi heddiw y bydd cyllid cyfalaf gwerth £3 miliwn ar gael i alluogi Cartrefi Dinas Casnewydd i osod cladin newydd ar dri bloc uchel yn y ddinas.
Y tri adeilad preswyl uchel yw'r unig rai yn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru sydd wedi'u cadarnhau'n adeiladau sydd â systemau Deunydd Cyfansawdd Alwminiwm (ACM) sy'n cyfateb i'r hyn sydd wedi methu profion hylosgedd ar raddfa fawr.
Dywedodd Rebecca Evans:
"Ers y drychineb yn Nhŵr Grenfell y llynedd, rydyn ni wedi gweithio'n agos ag awdurdodau lleol, perchnogion adeiladau, rheolwyr, y sector preifat a'r trydydd sector ac eraill i greu darlun cyflawn a manwl o'r sefyllfa ynghylch yr adeiladau preswyl uchel sydd yng Nghymru a hefyd i sicrhau bod perchnogion ac asiantiaid yn ymwybodol o ganllawiau'r Llywodraeth ar ddiogelwch a'u bod yn cymryd y camau angenrheidiol.
"Fe wnaeth Cartrefi Dinas Casnewydd ymateb yn sydyn i ddiogelu preswylwyr drwy roi nifer o fesurau diogelwch tân yn eu lle gan gynnwys system chwistrellu. Ein tro ni yw hi nawr i'w cefnogi drwy roi'r buddsoddiad hwn a fydd yn galluogi Cartrefi Dinas Casnewydd i barhau â'u hymrwymiad i ddiogelwch preswylwyr heb gyfaddawdu ar eu cynlluniau hollbwysig i adeiladu mwy o dai cymdeithasol yn y ddinas."