Mae prosiectau adfywio yng Nghymru yn cael eu hannog i ymgeisio i Gronfa Cymunedau’r Arfordir sydd â £3.4 miliwn ar gael o heddiw ymlaen.
O dan Gronfa Cymunedau’r Arfordir, a’i sefydlwyd gan Drysordy’r Deyrnas Unedig a’r gweinyddiaethau datganoledig, mae grantiau o rhwng £50,000 a £300,000 ar gael i ariannu prosiectau a fydd yn rhoi hwb i ragolygon economaidd cymunedau’r arfordir.
Bydd rhaid i brosiectau cymwys fod o fudd i ardaloedd arfordirol yng Nghymru, hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy a chreu neu ddiogelu swyddi fel y gall pobl ymateb i gyfleoedd ac anghenion newidiol.
Bydd rhaid i brosiectau, all ddod mewn gan y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, hefyd wneud un o’r canlynol:
- cychwyn neu symud i faes arall o weithgaredd neu fusnes
- ehangu cyflwyniad gweithgaredd neu fusnes presennol
- arloesi neu wella eu model busnes neu strwythur sefydliadol.
Ers cychwyn Cymunedau’r Arfordir mae wedi dyfarnu 218 o grantiau gwerth £125 miliwn i sefydliadau ledled Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Rhagwelir y bydd y prosiectau hyn yn cyflwyno 12,000 o gyfleoedd gwaith, ac yn helpu i ddenu £240 miliwn o arian ychwanegol i ardaloedd arfordirol.
Mae 39 o ddyfarniadau gwerth £8,160,904 wedi eu dyfarnu yng Nghymru gyda’r rhaglen yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Loteri Fawr.
Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant:
"Rydym yn lwcus iawn yng Nghymru fod gennym arfordir gwych sydd â golygfeydd ac atyniadau heb eu hail ac mae yna nifer o esiamplau gwych o sut mae’r arian hwn wedi helpu gwella cymunedau arfordirol o gyfleusterau beicio ym Mhorthcawl i greu canolfan ymwelwyr yng Nghei Connah. Rwy’n annog cymunedau, entrepreneuriaid a busnesau i geisio am y cyllid hwn i fanteisio i’r eithaf ar y nodweddion naturiol hyn, gan wella potensial yr ardal a sbarduno twf a swyddi lleol."
Dywedodd Sian Callaghan, Cadeirydd Cymru Cronfa Cymunedau’r Arfordir:
"Mae Cymunedau’r Arfordir yn rhannu ymdeimlad cryf o le ac mae gan yr arian yma y potensial i roi hwb croesawgar i ardaloedd yng Nghymru drwy gefnogi datblygiad eu heconomïau lleol.
"Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu â ni i weld beth sydd ar gael i chi â’ch cymuned."
Mae ffurflenni cais a deunyddiau cymorth ar gael ar ein gwefan gyda dyddiad cau o hanner dydd Dydd Iau 29 Medi 2016 ar gyfer cam cyntaf y broses ymgeisio. Bydd grantiau yn cael eu dyfarnu yn ystod haf 2017.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan y Gronfa Cymunedau Arfordirol (dolen allanol)