Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn rhoi £2m o gyllid newydd i gefnogi iechyd a lles myfyrwyr, gan gynnwys iechyd meddwl, mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.
Mae'r cyllid wedi'i ddarparu i wella'r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr a staff mewn sefydliadau addysg uwch. Dylai mentrau ar lefel y sefydliad elwa ar y cyllid, fel hyfforddi staff i fod yn ymwybodol o lesiant ac iechyd meddwl, a hybu rhoi gwybodaeth am iechyd ar hyd a lled y campws, gan gynnwys diogelu myfyrwyr sydd mewn perygl o niwed.
Caiff y cyllid ei ddyrannu drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:
“I'r rhan fwyaf o fyfyrwyr, mae mynd i'r brifysgol yn brofiad llawen – sy’n cynnwys ffrindiau newydd, dewis llwybrau gyrfa a dysgu gwersi, yn y ddarlithfa a'r tu allan iddi. Ond, mae hefyd yn gyfnod o newid sy'n galllu golygu gorfod wynebu heriau fel byw i ffordd o'r cartref am y tro cyntaf, rheoli arian neu ymdopi â phwysau arholiadau.
“Bydd y cyllid hwn yn cryfhau'r gofal a'r cymorth y mae prifysgolion yn eu darparu i fyfyrwyr, trwy ymyrryd neu gynnig cymorth iddyn nhw os bydd neu pan fydd angen, ac yn eu helpu i gyflawni eu huchelgeisiau a manteisio i'r eithaf ar eu profiad yn y brifysgol heb unrhyw rwystrau.”
Dywedodd Gwyneth Sweatman, Llywydd UCM Cymru:
“Mae iechyd meddwl myfyrwyr wedi bod yn flaenoriaeth imi fel Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, ac i’n hundebau i fyfyrwyr ar hyd a lled Cymru, eleni. Rwy'n croesawu buddsoddiad Llywodraeth Cymru o £2 filiwn i wella iechyd meddwl a lles myfyrywr.
“Rwy'n gobeithio y bydd y prifysgolion yn gallu defnyddio'r cyllid hwn i wella'r cymorth a'r gwasanaethau y maen nhw'n eu cynnig i fyfyrwyr, fel cymorth dwyieithog ac ar-lein. Mae hefyd yn bwysig bod myfyrwyr yn gallu cael hyd i gymorth a gwasanaethau'n rhwydd ar draws wahanol gampysau.
“Rwy'n awyddus i weld mwy o staff academaidd ac anacademaidd rheng flaen yn cael eu hyfforddi am iechyd meddwl, a hoffwn weld gwasanaethau cyhoeddus lleol yn cydweithio'n fwy agos â phrifysgolion.
“Mae maint Cymru'n berffaith i brifysgolion, myfyrwyr a'r sector iechyd meddwl gydweithio i wneud yn siŵr bod pob myfyriwr yng Nghymru, ble bynnag neu sut bynnag y maen nhw'n astudio, yn gallu cael mynediad i'r gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i barhau i astudio.
“Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio ar yr agenda bwysig hon ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, prifysgolion, a'n hundebau myfyrwyr.”
Dywedodd Dr David Blaney, Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru:
“Yn yr un modd ag y gall ysgolion helpu disgyblion, ac y mae cyflogwyr yn darparu gwasanaethau i'w staff, mae ond yn iawn bod prifysgolion mewn sefyllfa dda i gefnogi eu poblogaethau mawr ac amrywiol. Mae hyn yn rhan o gyfres o gymorth wedi'i dargedu gan y Cyngor Cyllido, sy'n cydnabod y rôl unigryw y mae prifysgolion yn ei chwarae ym mywydau bob dydd eu myfyrwyr. O ran ymyriadau cynnar sy'n ymwneud â materion personol neu academaidd, neu o ran cynnig cymorth yn dilyn gorfod wynebu heriau, bydd y cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.”
Dywedodd Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru:
“Mae'r gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud gan wasanaethau lles a chymorth i fyfyrwyr ar draws brifysgolion Cymru wedi gwneud argraff fawr iawn ar Prifysgolion Cymru, yn enwedig mewn amgylchedd heriol lle y mae’r gyfran o’r bobl sy'n datgelu materion iechyd meddwl wedi cynyddu'n sylweddol ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.
“Eleni, mae prifysgolion yng Nghymru wedi bodyn gweithio gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ddatblygu dull ar gyfer Cymru-gyfan i hyrwyddo iechyd meddwl a lles da. Mae'r cyhoeddiad heddiw i'w groesawu'n fawr, a bydd yn helpu prifysgolion yng Nghymru i fynd i'r afael â'r heriau cymhleth yn y meysydd hyn."