Mae wyth prosiect cymunedol ar hyd a lled Cymru yn dathlu ar ôl derbyn cyfran o dros £2.6 miliwn i wella eu hadeiladau a'u cyfleusterau.
Heddiw cyhoeddodd Carl Sargeant, y Gweinidog Cymunedau a Phlant, mai'r prosiectau diweddaraf i gael eu hariannu drwy'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yw:
Canolfan Cyngor ar Bopeth Caeffili a Blaenau Gwent ar gyfer prosiect i adnewyddu hen glwb cymdeithasol yng nghanol Bargoed a'i throi'n gyfleuster cymunedol sy'n cynnig lle i gwrdd a hyfforddi, mynediad at gyfrifiaduron, Wi-fi a hyfforddiant mewn sgiliau TG.
Eglwys Gymunedol Afon Dyfrdwy yn Sir y Fflint i greu cyfleuster cymunedol amlbwrpas sy'n gwbl hygyrch ar gyfer pobl yn ward Cymunedau yn Gyntaf Castell y Fflint.
RAY Ceredigion yn Aberaeron, i wella effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd yr adeilad. Mae'r prosiect hwn yn darparu gwasanaethau i'r hen a'r ifanc a hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Dechrau'n Deg i ddarparu gwasanaethau yn yr ardal wledig hon.
Eglwys Deuluol y Cymoedd ym Mrynmawr, ar gyfer prosiect i adnewyddu hen gapel Bedyddwyr er mwyn i'r gymuned allu defnyddio’r adeilad unwaith eto drwy gynnig ystod o wasanaethau i fynd i'r afael â thlodi yn yr ardal.
Eglwys Sant Pedr yn y Tyllgoed yng Nghaerdydd i adnewyddu'r adeilad a chreu lle mwy hyblyg er mwyn cynyddu nifer y grwpiau sy'n gallu defnyddio'r cyfleuster. Caiff y neuadd a'r gerddi eu defnyddio gan amryw o grwpiau gan gynnwys Cymunedau yn Gyntaf, Uned Niwed i'r Ymennydd Rookwood a phlant o’r ysgol gynradd gerllaw.
AGE Cymru Gwynedd a Môn ym Mhontnewydd, Gwynedd i droi hen gartref plant yn Ganolfan Heneiddio'n Dda sy'n darparu gwasanaethau ar gyfer pobl dros 50 oed gan gynnwys gofal dydd, cyngor ar wneud y gorau o incwm ac ar fudd-daliadau, hyfforddiant mewn sgiliau TG a chlwb swyddi i bobl dros 50 oed. Bydd y cyfleuster hefyd yn cael ei ddefnyddio at amryw o ddibenion eraill gan y gymuned ehangach.
Cwmni Cymunedol Clettwr yn Nhre’r Ddol, Ceredigion i ailadeiladu'r hen orsaf wasanaethau ar yr A487 lle ceir siop, caffi a man cyfarfod ar hyn o bryd. Dyma'r unig gyfleuster cymunedol yn y gymuned wledig hon ac mae'n cynnig nifer o gyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau gwaith.
Eglwys Gymunedol Lifepoint yn Abertawe ar gyfer prosiect i ehangu ei chyfleusterau a gosod to newydd. Mae'r Ganolfan yn gweithio gyda thair ysgol leol mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf i nodi teuluoedd y mae angen cymorth arnynt. Mae'n darparu bwyd a dillad i'r teuluoedd hyn a hefyd yn ceisio helpu pobl ddigartref yn y ddinas.
Dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Cymunedau a Phlant, wrth wneud y cyhoeddiad yn Eglwys Sant Pedr yn y Tyllgoed yng Nghaerdydd:
"Bydd y cyllid o £2.6 miliwn yr wyf wedi'i gyhoeddi heddiw yn rhoi bywyd newydd i rai o'r adeiladau hyn ac yn helpu i sicrhau eu bod yn chwarae rôl bwysig o ran gwella bywydau'r bobl sy'n eu defnyddio.
"Mae'r prosiectau hyn wir yn hollbwysig i'w cymunedau, gan ddarparu nifer o wasanaethau pwysig i'r hen a'r ifanc a chynnig lle i grwpiau ddod at ei gilydd. Bydd y cyllid hwn yn galluogi'r prosiectau hyn i ehangu eu gwaith ymhellach, gan agor eu drysau i hyd yn oed mwy o bobl o fewn y gymuned leol."