Neidio i'r prif gynnwy

Mae Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, wedi cytuno i roi £500,000 ychwanegol i fynd i'r afael â digartrefedd a chysgu allan ymhlith pobl ifanc.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r arian hwn wedi'i neilltuo ar gyfer prosiectau sy'n ymdrin â chysgu ar y stryd, digartrefedd ymhlith pobl ifanc, ac iechyd meddwl a digartrefedd yn gyffredinol. Yn ogystal, bydd yn mynd tuag at helpu pobl i ddod o hyd i dai yn y sector rhentu preifat.

O'r £2.6 miliwn, mae awdurdodau lleol Caerdydd, Abertawe a Wrecsam hefyd wedi elwa ar gyllid cyfalaf i sicrhau bod mwy o welyau brys ar gael ar gyfer pobl sy'n cysgu ar y stryd. Mae hyn oll yn digwydd wrth i ffigurau digartrefedd ar gyfer mis Ebrill i fis Mehefin 2017 nodi bod digartrefedd wedi’i atal mewn perthynas â 63 y cant o aelwydydd a oedd mewn perygl o golli eu cartrefi. Mae hyn yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan 21 o'r 22 awdurdod lleol ledled Cymru.

Mae'r ffigurau newydd yn dangos bod awdurdodau lleol wedi helpu 39 y cant o'r 2,652 o aelwydydd yr aseswyd eu bod yn ddigartref yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2017. Golyga hyn y llwyddwyd i ddod o hyd i lety ar eu cyfer a fyddai'n debygol o bara 6 mis.

Dywedodd Carl Sargeant, yr Ysgrifennydd dros Gymunedau:

"Mae’r ffigurau ar gyfer y chwarter diwethaf yn dangos bod y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd yn 2015 yn parhau i helpu mwy o bobl sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref."   

"Mae darparu cartref diogel a chlyd i bobl yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth ac rwy'n cydnabod y gallwn wneud mwy, yn enwedig ar gyfer y rheini sy'n cysgu ar y stryd a'r grwpiau sy'n ei chael hi'n anodd cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Bydd y £2.6 miliwn hwn yn sicrhau y gallwn gynnig mwy o gymorth i'r bobl sydd fwyaf angen ein help."