Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi dros £2.5 miliwn ar gyfer Glandwr Cymru i wella Camlas Mynwy ac Aberhonddu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gryfhau’r argloddiau, lleihau gollyngiadau a gwella’r ffordd y mae cynefinoedd y gamlas yn cael eu rheoli. 

Mae’r rhaglen waith yn cynnwys trwsio Pont Ddŵr Tal-y-bont, cyflwyno dros 20,000 o blanhigion i ddenu pryfed peillio a phlannu 4.5km o lannau’r gamlas i gynyddu bioamrywiaeth. 

Mae’r arian hwn gan Lywodraeth Cymru’n hwb i ran bwysig o brosiect ehangach Glandwr Cymru i adfywio’r coridor dŵr rhwng Aberhonddu a Chasnewydd a rhwng Casnewydd a Chwm-carn er lles natur a chymunedau’r bröydd hynny. 

Mae’r gwaith eisoes yn mynd rhagddo a chafodd y gamlas ei draenio ddechrau’r wythnos a chaiff y pysgod eu hachub gyda help plant ysgolion lleol yn ddiweddarach yr wythnos hon. 

Wrth gyhoeddi’r rownd gyllido ddiweddaraf, meddai Ysgrifennydd yr Amgylchedd: 

“Mae gan ddyfrffyrdd byw y potensial i weddnewid lle, gan ddod â manteision i economi’r cymunedau o gwmpas a gwella iechyd a lles. 

“Mae’n bleser felly cael helpu prosiect uchelgeisiol Glandwr Cymru i adfywio’r dyfrffyrdd rhwng y canolbarth a’r de-ddwyrain.  Mae rhai ohonynt yn llifo trwy rai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad a bydd potensial felly iddynt ddod â buddiannau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd anferth i’r ardaloedd hynny.” 

Dywedodd Richard Parry, prif weithredwr Glandwr Cymru: 

“Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r hwb anferth hwn i Gamlas Mynwy ac Aberhonddu.  Mae’n rhannu’n gweledigaeth i wneud dyfrffyrdd Cymru yn galon eu cymunedau.  Bydd yr arian yn rhoi’r modd inni wneud gwaith hanfodol i ddiogelu’r gamlas at y dyfodol a dod â manteision i’r economi leol a chyfoethogi bywydau ymwelwyr a phawb sy’n byw o’i chwmpas.”