Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen yng ngogledd Powys yw'r ddiweddaraf i gael £2.554m o gyllid o Gronfa Trawsnewid £100m Llywodraeth Cymru i gefnogi ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i helpu'r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol i weithio'n agosach gyda'i gilydd a darparu gofal yn nes at gartrefi pobl. Os yw'n llwyddiannus, gellir ei gyflwyno ledled Cymru. 

Crëwyd y Gronfa i gefnogi'r gwaith o helpu i gyflwyno modelau newydd ar raddfa ehangach er mwyn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ddi-dor, a hynny fel rhan o gynllun Cymru Iachach, sef cynllun tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. 

Mae'r cyllid ar gyfer rhaglen Llesiant Gogledd Powys, a fydd yn helpu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys i weithio gyda chymunedau lleol a sefydliadau partner i ddatblygu ffordd newydd o ddarparu gwasanaethau yn nes at adref.

Y rhaglen hon fydd y rhaglen iechyd a llesiant fwyaf erioed ym Mhowys sy'n pontio'r cenedlaethau, gan roi cyfle i gymunedau lleol gydweithio gydag iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, tai, hamdden, y trydydd sector a phartneriaid ehangach. 

Dywedodd Mr Gething:

"Mae'n bleser gennyf gyhoeddi mai'r prosiect yng ngogledd Powys yw'r diweddaraf i gael cefnogaeth Cronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru. Bydd ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu pwysau uwch a mwy cymhleth yn y dyfodol wrth i'r boblogaeth heneiddio. Mae angen i ni ddatblygu ffyrdd newydd, radicalaidd o ddarparu ein gwasanaethau iechyd a chymdeithasol os ydym am ddiwallu'r galw yn y dyfodol. Bydd yn rhaid mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio, gan ddod â gwahanol wasanaethau at ei gilydd, i ddarparu gwasanaethau yn nes at y cartref a lleihau'r pwysau ar ysbytai. Mae ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, Cymru Iachach yn nodi sut y gallwn gyflawni hyn. Bydd ein Cronfa Trawsnewid £100m yn ein helpu i wireddu'n gweledigaeth drwy ariannu prosiectau arloesol sydd â'r potensial i gael eu cyflwyno a'u defnyddio ledled Cymru gyfan.”

Dywedodd y Cynghorydd Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Sir Powys,

"Dyma gyfle a ddaw ond unwaith mewn cenhedlaeth i wella iechyd a llesiant yng ngogledd Powys. Gyda'i gilydd, mae ein cyngor a'n bwrdd iechyd eisoes yn arwain y ffordd yng Nghymru fel y rhanbarth cyntaf gyda strategaeth iechyd a gofal ar y cyd a gytunwyd yn 2018, yn seiliedig ar y pethau y mae pobl Powys wedi dweud sy'n bwysig iddyn nhw. Bydd yr arian hwn gan Lywodraeth Cymru yn ein helpu i sicrhau ein bod yn cymryd camau ymarferol i wireddu hyn."

Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys:

"Mae'r rhaglen hon yn ymwneud yn bennaf oll â sicrhau'r cyfleoedd gorau ar gyfer iechyd a gofal yng ngogledd Powys. Ond, yn ganolog i gyflawni hyn mae datblygu cyfleuster newydd, modern, yn ardal y Drenewydd i gynnig rhagor o wasanaethau yn lleol, a dod â'r dechnoleg a hyfforddiant diweddaraf i'r canolbarth. Bydd wedi'i leoli yng nghanol y dref, ac mae cyllid gan Lywodraeth Cymru yn golygu y gallwn yn awr ddechrau sgwrs fawr gyda'r preswylwyr, staff a sefydliadau partner i gytuno ar y gwasanaethau y bydd yn eu cynnig a sut y bydd yn cysylltu â chyfleusterau iechyd a gofal yng Ngogledd Powys. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda chymunedau lleol i ddatblygu a gweithredu'r ffordd newydd hon o gydweithio."