Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd £2.3m o gyllid ychwanegol gan yr UE yn helpu pobl ifanc i ddilyn gyrfa yn y sectorau gwasanaethau ariannol a gwyddor data.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y buddsoddiad ychwanegol yn y rhaglen graddedigion gwasanaethau ariannol, sydd eisoes wedi cael £2.5m o gyllid yr UE, yn cefnogi 35 yn fwy o raddedigion i ddod yn weithwyr proffesiynol yn y ddau sector pwysig hyn yn y de-ddwyrain.

Bydd cynllun peilot hefyd yn cael ei lansio i recriwtio 25 o raddedigion i raglen gwyddor data dwy flynedd a fydd yn dechrau ym mis Medi 2018. Bydd graddedigion â’r profiad gofynnol yn datblygu’r sgiliau a'r wybodaeth i ddod yn wyddonwyr data ac yn arweinwyr yfory, drwy ddatblygu eu gyrfa'n gyflym o'r lefel mynediad i fod yn is-wyddonwyr data.

Dan arweiniad Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru, bydd y rhaglen beilot yn targedu'r prinder sgiliau presennol ac yn y dyfodol ym maes gwyddor data a dadansoddeg.

Dywedodd yr Athro Drakeford:

"Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu pobl i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus ac i roi hwb i'r sectorau twf uchel sy'n hanfodol i sicrhau twf economaidd a chyflogaeth.

"Dyma enghraifft arall o'r ffordd y mae cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn cefnogi uchelgeisiau twf Cymru. Rydyn ni'n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu ffynhonnell hanfodol o gyllid yn lle’r cyllid presennol hwn ar ôl i ni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd er mwyn inni barhau i allu buddsoddi mewn rhaglenni fel hyn."

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Fforwm Gwasanaethau Cyllid Cymru, Sandra Busby:

"Mae angen i bawb ym mhobman sicrhau bod eu data'n barod ac ni allwn beidio â manteisio ar y ffyniant yn y maes gwyddor data.

“Mae gennym ni fusnesau byd-eang yng Nghymru sydd angen mynediad at y gwyddonwyr data gorau. Dyma pam ein bod wedi sefydlu rhaglen graddedigion gwyddor data Cymru i ddarparu cronfa o unigolion talentog o ansawdd uchel i arweinwyr y diwydiant ddewis o’u plith.

"Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn manteisio ar y dechnoleg a'r systemau diweddaraf ac yn cael profiad ymarferol o weithio gyda'r gorau yn y wlad. Ar ôl eu lleoliad gwaith dwy flynedd, byddan nhw'n unigolion cytbwys ac amryddawn gyda gradd MSc – yr union hyn y mae pob cyflogwr yn chwilio amdano.

"Rydyn ni hefyd yn falch o ymestyn ein rhaglen graddedigion gwasanaethau ariannol fel bod mwy o raddedigion yn gallu manteisio er mwyn datblygu gyrfaoedd yn y sector cyffrous hwn. Mae gennym ni enw da ardderchog am sicrhau cyflogaeth i'n graddedigion, ac edrychwn ymlaen at yr un llwyddiant gyda dosbarth cyntaf 2018."