Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r prosiect hefyd wedi cael cymorth ariannol o dros £500,000 gan Ymddiriedolaeth Livsey.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r prosiect hefyd wedi cael cymorth ariannol o dros £500,000 gan Ymddiriedolaeth Livsey. Sefydlwyd yr ymddiriedolaeth elusennol er cof am gyn breswylwyr Llandrillo-yn-Rhos, Robert a Flora Livsey, ac mae'n cefnogi gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd. 

Bydd y cyllid yn galluogi i'r theatr bresennol drawsnewid i fod yn theatr hybrid o'r radd flaenaf a fydd yn gallu cynnal llawdriniaethau fasgwlaidd cymhleth. Mae’n rhan o’r cynlluniau i greu rhwydwaith newydd o wasanaethau fasgwlaidd sydd wedi’u lleoli’n bennaf yn Ysbyty Glan Clwyd ond gan barhau i gynnal rhai triniaethau yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam. 

Cafodd y model rhwydwaith ar gyfer llawdriniaethau fasgwlaidd ei argymell mewn adolygiad drwy wahoddiad gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon, a bydd yn adlewyrchu arferion gorau ledled y DU. 

Yn y theatr newydd, bydd modd cynnal ystod lawn o driniaethau mewn un ystafell. Bydd yn cynnwys adnoddau delweddu meddygol uwch felly bydd modd i staff y theatr a'r adran radioleg gydweithio. Drwy hyn, gall cleifion fanteisio ar wasanaethau delweddu a llawdriniaethau sy’n creu archoll mor fach â phosib ar yr un pryd ac yn yr un lle. 

Wrth fedru darparu popeth ar un safle, bydd hefyd modd gwella hyfforddiant llawfeddygol a chynnal hyfforddiant amlbroffesiynol mewn un lle. 

Wrth siarad cyn ymweld ag Ysbyty Glan Clwyd heddiw, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

"Dyma ddatblygiad cyffrous i lawdriniaethau fasgwlaidd yn yr ardal. Mae sawl mantais i gleifion wrth ganoli gwasanaethau cymhleth ar un safle ac yn benodol, rydyn ni'n disgwyl eu gweld yn gwella'n gynt gan y bydd y llawdriniaethau yn llai mewnwthiol eu natur.

"Rydyn ni hefyd yn disgwyl i'r gwaith o ddatblygu'r rhwydwaith fasgwlaidd a'r buddsoddiad sylweddol hwn arwain at rota ar alwad mwy cynaliadwy i staff ac y bydd yn cynyddu pa mor ddeniadol yw'r Bwrdd Iechyd o ran recriwtio meddygon ymgynghorol ac i swyddi eraill. Mae hyn yn newyddion i'w groesawu i gleifion a staff yn y Gogledd." 

Dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dr Evan Moore: 

"Wrth fuddsoddi mewn theatr hybrid, bydd gennym y cyfleusterau gorau posibl i ofalu am gleifion y Gogledd sydd angen llawdriniaethau fasgwlaidd cymhleth. 

"Bydd datblygu'r theatr yma yn Ysbyty Glan Clwyd hefyd yn cefnogi hyfforddiant staff fasgwlaidd arbenigol, gan gyfrannu at wasanaeth cadarn a chynaliadwy i breswylwyr y Gogledd."