Cyllid gwerth £227,500 i gefnogi ailgylchu matresi yn Rhondda Cynon Taf a galw ar fusnesau lleol i feddwl am atebion blaengar newydd er mwyn medru ailgylchu pob rhan o'r matresi.
Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Rhondda Cynon Taf wedi dod at ei gilydd i gynnig gwobr gwerth £350,000 i'r busnes sy'n llwyddo i feddwl am yr ateb gorau. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu technolegau, prosesau a modelau busnes blaengar a'u masnacheiddio ymhellach er mwyn mynd â’r syniad yn ei flaen.
Mae Rhondda Cynon Taf eisoes yn berchen ar un o'r ychydig beiriannau sydd ar gael yn y byd a all rhannu matresi'n ddarnau yn barod ar gyfer eu hailgylchu. Mae gan y peiriant y potensial i ailgylchu 100,000 o fatresi'r flwyddyn - sef bron un fatres o bob aelwyd yn Rhondda Cynon Taf.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynllun ailgylchu matresi'r cyngor gyda chyllid gwerth £122,500 i ddatblygu cynlluniau i ddefnyddio gwres gwastraff o Ffatri Trin Gwastraff Bwyd i gynhesu dŵr er mwyn sterileiddio tecstilau’r fatres sy'n cael ei hailgylchu. Nod y cynllun peilot hwn, sy'n cael ei gynnal gan y Fenter Ymchwil Busnesau Bach, yw nodi manteision economaidd cyflawni hyn ar raddfa fawr.
Mae gan y prosiect y potensial i greu swyddi lleol, ailgylchu mwy, lleihau allyriadau carbon ac arbed arian i'r awdurdod lleol.
Dywedodd Lesley Griffiths:
"Rwy'n falch ein bod yn cefnogi'r prosiect a'r gystadleuaeth ailgylchu arloesol hon. Os bydd yn llwyddiannus, bydd y prosiect yn gweld cynnydd yng ngalw'r farchnad am decstilau matresi gwastraff, marchnad sydd heb ddatblygu digon yng Nghymru na'r DU.
"Mae Cymru yn arwain y ffordd o ran ailgylchu yn y DU ac mae ar y trywydd cywir i daro ei tharged ailgylchu o 70% erbyn 2025. Fodd bynnag, gallwn bob amser wneud mwy a thrwy feddwl yn greadigol a dyfeisio atebion cynaliadwy, gallwn fod y wlad sy'n ailgylchu fwyaf yn Ewrop."
Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Diwylliant:
"Rydym yn ceisio ailgylchu mwy o wastraff yn Rhondda Cynon Taf drwy'r amser ac yn ceisio anfon llai at safleoedd tirlenwi. Mae ein gwasanaeth ailgylchu matresi wedi bod yn llwyddiant mawr ers ei lansiad pedair blynedd yn ôl. Fodd bynnag, bydd y gystadleuaeth hon yn nodi cam pwysig ymlaen ar gyfer y cynllun ac yn adeiladu ar graidd ein gwerthoedd yn Rhondda Cynon Taf i ailgylchu cymaint ag y gallwn.
"Yn ôl yn 2015, ar ôl llwyddo i gyrraedd targed ailgylchu o dros 60% a sicrhau ei le fel un o'r 10 cyngor gorau yng Nghymru, coronodd Llywodraeth Cymru Rhondda Cynon Taf y Cyngor yng Nghymru sy'n Datblygu Cyflymaf am ei ymdrechion i ailgylchu. Yn 2016, rydym unwaith eto wedi sicrhau ein bod yn un o'r 10 gorau drwy ailgylchu dros 61% o wastraff. Mae hyn yn rhywbeth y gall yr holl breswylwyr fod yn falch iawn ohono - ond gallwn wneud mwy.
"Mae'r datblygiad diweddaraf hwn yn dangos sut rydym ni fel Cyngor yn edrych ar sut gallwn ailgylchu cymaint â phosib ac rydym yn annog ein preswylwyr i ymuno â ni drwy ailgylchu un eitem ychwanegol yr un. Gyda'n gilydd gallwn fwrw'r targed o 70% a osodwyd ar gyfer 2025."
Er mwyn bod yn rhan o'r gystadleuaeth rhaid i fusnesau gofrestru gyda GwerthwchiGymru.
Lawrlwythwch yr holl wybodaeth ategol, gan gynnwys yr Arweiniad i Ymgeiswyr a'r ffurflen gais, ac e-bostiwch y ffurflenni cais wedi'u cwblhau at rct-sbri-mattresstextiles@rctcbc.gov.uk.
Agorwyd y gystadleuaeth ddydd Mercher 9 Tachwedd 2016 a bydd yn cau ganol dydd, ddydd Llun 13 Ionawr 2017. Bydd sefydliadau sy'n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad rhwng 15 ac 16 Chwefror 2017.