Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd yr Mark Drakeford, yn cyhoeddi cyllid gan yr UE gwerth ar gyfer cynlluniau i helpu pobl ifanc a menywod i wella eu sgiliau a'u rhagolygon cyflogaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cymorth ychwanegol hwn, sy'n cael ei gyhoeddi ar Ddiwrnod Ewrop, yn sicrhau bod bron 8,000 o bobl yn cael cymorth a hyfforddiant.

Mae'r prosiectau i elwa ar gyllid yr UE yn cynnwys Inspire2Work, Trac 11-24, Cyflawni Trwy Brofiad Gwaith a Chenedl Hyblyg II.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:

“Dw i wrth fy modd gweld bod cronfeydd yr UE yn cael eu buddsoddi mewn prosiectau i helpu pobl i ennill y sgiliau y mae arnynt eu hangen i gyflawni eu potensial.

“Mae Cymru wedi elwa'n ddirfawr o raglenni ariannu gan yr UE ers 20 mlynedd ac mae'r prosiectau i hyn yn tanlinellu mor bwysig ydyw i Gymru gael cyllid gan  y DU pan fydd y DU'n ymadael â'r UE.”

Dywedodd David Blaney, Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru:

“Rydyn ni'n falch bod cynllun GO Wales: Cyflawni Trwy Brofiad Gwaith wedi cael ei gydnabod gyda buddsoddiad pellach trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

“Trwy ganolbwyntio ar fyfyrwyr sydd wedi bod o dan anfantais yn y farchnad swyddi oherwydd eu cefndir, mae'r cynllun – trwy gyfleoedd profiad gwaith a gwella sgiliau – eisoes wedi dangos canlyniadau cadarnhaol ar gyfer y rhai sy'n cymryd rhan.

“Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld mwy o fyfyrwyr yn cael eu hatgyfeirio at y cynllun ac yn manteisio ar ystod o gyfleoedd profiad gwaith gyda chyflogwyr lleol, a fydd yn gwella rhagolygon cyflogaeth ymhellach ac yn lleihau'r risg o ddifreinio.”

Mae'r cyllid newydd a gyhoeddir heddiw'n ychwanegol at fwy na £650m o gronfeydd yr UE, sydd wedi'u buddsoddi mewn hyfforddiant a gwaith yng Nghymru - ac mae mwy na £200m o hyn wedi cefnogi pobl ifanc.