Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd Carl Sargeant, yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, fod £2.1 miliwn ychwanegol wedi’i ddyrannu i helpu i fynd i’r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc a phroblem cysgu ar y stryd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cyllid hwn yn ychwanegol at yr £8m a ddarparwyd drwy Raglen Grant Atal Digartrefedd a’r £6m a ddyrannwyd i awdurdodau lleol i atal digartrefedd.

Caiff awdurdodau lleol, drwy gydweithio â mudiadau’r sector gwirfoddol, eu gwahodd i wneud cais am y cyllid ar gyfer prosiectau sy’n mynd i’r afael â chysgu ar y stryd, digartrefedd ymhlith pobl ifanc, digartrefedd neu’r posibilrwydd o ddigartrefedd ymhlith pobl â phroblem iechyd meddwl, ac sy’n ei gwneud yn haws i bobl sydd angen tai gael mynediad i’r sector rhentu preifat. Gan fod y materion hyn yn gysylltiedig â’i gilydd yn aml, caiff prosiectau sy’n mynd i’r afael â’r cysylltiadau hynny eu hannog yn benodol i wneud cais.

Daw’r cyhoeddiad wrth i adroddiad sy’n gwerthuso deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ar ddigartrefedd o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 gael ei gyhoeddi. Gwelwyd bod y sylw mwy a roddwyd yn y Ddeddf i atal digartrefedd wedi arwain, yn gyffredinol, at atal digartrefedd go iawn i nifer fwy o bobl nag o’r blaen, ond nad yw rhai grwpiau penodol, ee dynion sengl, y rheini sy’n gadael gofal a’r rheini sydd â mwy nag un broblem wedi elwa i’r un graddau. Roedd yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at amrywiadau ledled Cymru o ran y gwasanaethau a ddarperir.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Mae darparu cartref diogel a chynnes i bobl yn dal i fod yn flaenoriaeth allweddol. Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod awdurdodau lleol wedi dechrau ar y trywydd iawn i weithredu’r ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gennym yn 2015 i helpu pawb sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.

"Ond mae yna fwy y gallwn ni ei wneud, yn enwedig dros y grwpiau hynny sy’n dal i’w chael yn anodd cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Ynghyd â’r £14m y gwnes i ei gyhoeddi yn gynharach eleni, bydd y cyllid dwi wedi’i gyhoeddi heddiw ar gael i brosiectau sy’n ceisio targedu’r grwpiau hyn a mynd i’r afael â’r materion maen nhw’n eu hwynebu."