Neidio i'r prif gynnwy

Dyfarnwyd £ 215,000 i'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i wella a datblygu gwasanaethau cymorth mabwysiadu yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwnaed y cyhoeddiad ar ddechrau’r Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu, sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth ynghylch mabwysiadu, ac yn fwy penodol na hynny, yr angen i ddod o hyd i fabwysiadwyr ar gyfer grwpiau o frodyr a chwiorydd.

Bydd £90,000 o’r gyllideb Plant a Chymunedau ar gyfer 2018/19 yn ariannu ymgyrchoedd recriwtio a fydd yn canolbwyntio ar ddod o hyd i deuluoedd ar gyfer y rheini sy’n ei chael yn anodd i ddod o hyd i fabwysiadwyr, fel grwpiau o frodyr a chwiorydd a phlant hŷn sy’n aros i gael eu mabwysiadu. Bydd yr arian hefyd yn mynd i barhau â’r gwaith o ddatblygu fframwaith cefnogi cenedlaethol ar gyfer teuluoedd sy’n mabwysiadu.

Bydd cyllid cylchol o £125,000 o gyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei ddefnyddio i recriwtio, hyfforddi a darparu adnoddau ar gyfer “hyrwyddwyr taith bywyd” sy’n rhoi cefnogaeth i blant yn ystod y broses fabwysiadu a recriwtio hyrwyddwr cenedlaethol i roi’r fframwaith cefnogi mabwysiadu ar waith. Bydd hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod y fframwaith yn gweithredu’n gyson ledled y wlad.  

Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant:

“Mae mabwysiadu yn fodd o roi cartref a theulu cariadus i blant sy’n agored i niwed. Mae’n rhoi sefydlogrwydd a diogelwch. Mae pob plentyn yn haeddu hynny. Mae’n bleser gen i allu rhoi’r arian hwn i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Bydd yn helpu i gryfhau gwasanaethau mabwysiadu  ac yn gwella safon bywyd y plant yma.”

Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae’n hanfodol bod blant sy’n cael eu mabwysiadu a’r teuluoedd sy’n eu mabwysiadu yn cael y gefnogaeth i ddod i arfer â’u bywyd newydd. Bydd yr arian hwn, sy’n cefnogi hyrwyddwyr taith bywyd ac yn sicrhau bod y fframwaith cefnogi mabwysiadu yn cael ei weithredu’n gyson ledled Cymru, yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant wedi’u mabwysiadu a’u teuluoedd."

Wrth groesawu’r cyhoeddiad heddiw, dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru:

“Mae Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu eleni yn dathlu brodyr a chwiorydd. Mae’r  arian hwn yn amserol iawn ar gyfer yr ymgyrch hwnnw.

“Mae 62% o blant sy’n rhan o grwpiau o frodyr a chwiorydd sy’n gyfanswm o  2 neu fwy yn disgwyl am deuluoedd ar hyn o bryd. Mae cyn bwysiced ag erioed ein bod ni’n recriwtio mabwysiadwyr sy’n medru cadw brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd.

“Ochr yn ochr â’r grant , bydd y cyllid cylchol yn ein galluogi i barhau i wella gwasanaethau cefnogi mabwysiadu ledled Cymru gan sicrhau bod taith bywyd pob plentyn sy’n cael ei fabwysiadu yng Nghymru yn cael cefnogaeth dda.

“Bydd y cyllid newydd yn caniatáu i ni ailedrych a chryfhau agweddau pwysig ar y daith fabwysiadu.”