Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant raglen newydd a fydd yn darparu modelau arloesol o dai i helpu i gynyddu nifer y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y rhaglen yn cael cyllid cychwynnol o £20m dros y ddwy flynedd nesaf, ac yn cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor presennol y llywodraeth. Bydd y tai arloesol hyn yn arwain at leihad sylweddol mewn biliau tanwydd, neu eu dileu yn gyfan gwbl, ac yn helpu Llywodraeth Cymru i weld pa fath o dai y dylai eu cefnogi yn y dyfodol.

Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet y cyhoeddiad yn y Gynhadledd Dylunio Tai Arloesol yn Stadiwm Dinas Caerdydd, a gynhaliwyd ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Tai Cymunedol Cymru. 

Dywedodd:

"Mae'r sector tai yng Nghymru yn wynebu nifer o heriau. Gwyddom fod angen inni adeiladu mwy o dai, a hynny'n gyflym. Gwyddom hefyd fod angen i'r tai a godwn fod yn rhatach i'w gwresogi, yn well i'r amgylchedd ac yn gallu ymateb yn well i heriau demograffig y dyfodol.

"Rwy’n chwilio am syniadau newydd a ffyrdd newydd o wneud pethau, o ran beth a sut rydym yn adeiladu. Mae angen inni ddechrau edrych ar arloesi’n fwy, ac ar dai sy'n gallu cael eu hadeiladu'n gynt fel paneli mewn ffatrïoedd neu fel unedau cyfan sy'n cael eu cludo i'r safle ar gefn lori. Mae angen inni edrych ar ddeunyddiau'r tai hyn, a beth arall maent yn eu cynnig o ran biliau tanwydd, allyriadau carbon, swyddi ac ati.

“Mae adeiladu tai yn sicrhau manteision pwysig sydd yn mynd yn gam ymhellach na dim ond rhoi to uwch pennau pobl. Ochr yn ochr â'r dystiolaeth helaeth fod tai o ansawdd da yn sicrhau manteision iechyd ac addysg i blant ac i deuluoedd, mae adeiladu cartrefi ar gyfer pob deiliadaeth yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ein heconomi a'n cymunedau. Gallwn ddefnyddio'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru i gynnig cyfleoedd anferthol a fydd yn sicrhau twf ac arloesi ym maes tai.

Er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth o dan y rhaglen, mae'n rhaid i'r tai:

  • allu cael eu hadeiladu’n gyflym
  • bod yn fforddiadwy a diwallu’r angen am dai
  • creu swyddi a chyfleoedd hyfforddi, cefnogi busnesau Cymru lle bynnag y bo modd
  • dileu neu leihau biliau tanwydd ac allyriadau carbon yn sylweddol
  • bod yn gysurus, gan adlewyrchu anghenion y meddiannydd
  • cael ardystiad o ansawdd

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Fy uchelgais yw dechrau newid y math o dai sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru - tai sy'n gallu cael eu codi'n gyflym ac o fewn cyllidebau, eu hailgylchu, nid ddim ond eu hailddefnyddio, os yw'r angen yn newid. Tai sy'n helpu i ateb heriau newid yn yr hinsawdd, tlodi tanwydd a demograffeg sy'n newid ynghyd â’r pwysau mawr y mae hynny’n ei roi ar ein cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol." 

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn croesawu’r buddsoddiad diweddaraf hwn gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn canfod atebion arloesol i’r argyfwng tai yng Nghymru. Mae angen i’r atebion hyn fod yn hyblyg er mwyn i’r sector barhau i ddarparu ystod eang o opsiynau i ragor o bobl, a bydd cyllid o‘r rhaglen hon yn allweddol er mwyn gwireddu uchelgeisiau. Mae’r sector yn barod am yr heriau a nodir yn y Cytundeb ar Gyflenwad Tai a gyhoeddwyd fis Rhagfyr y llynedd, a byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a CLlLC i gyrraedd y targed o 20,000 o dai.”

Dywedodd llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Dai, y Cynghorydd Dyfed Edwards.

“Mae gan awdurdodau lleol rôl lawn i’w chwarae wrth ddarparu’r tai sydd eu hangen arnom ledled Cymru. Wrth inni weld y ffocws a’r buddsoddiad cynyddol hwn mewn tai, mae’n bwysig nad ydym yn colli’r cyfle i edrych ar fodelau newydd o dai sy’n cynnig cartrefi mwy fforddiadwy ac effeithlon.”