Wrth i'r Ffair Aeaf rithwir ddechrau heddiw, mae'r Gweinidog Dros Faterion Gwledig Lesley Griffiths wedi cyhoeddi cymorth ariannol o £200,000 i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gyfer 2020 i 21.
Bydd y cyllid ar gyfer digwyddiad amaethyddol blaenllaw a mwyaf Cymru, Sioe Frenhinol Cymru, yn helpu i wella effaith amgylcheddol gweithgareddau'r Gymdeithas ac yn cefnogi gwydnwch y Gymdeithas drwy gwmpasu rhai o'r costau a ysgwyddir yn ogystal â helpu i adfer digwyddiadau yn y dyfodol.
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig:
"Ar y diwrnod y byddem yn draddodiadol wedi bod yn ymgynnull yn Llanfair-ym-Muallt ar gyfer diwrnod agoriadol y Ffair Aeaf, mae'n bleser gennyf gyhoeddi pecyn cymorth ariannol i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gyfer 2020/21 sy'n adlewyrchu'r amgylchiadau digynsail y maent wedi'u hwynebu eleni.
"Rwyf wedi dweud o’r dechrau ein bod yn gweld y storm berffaith wrth inni wynebu dwy her, sef Covid ac effaith gadael y cyfnod pontio. Bydd yr arian hwn yn sicrhau bod RWAS yn fwy cadarn yn ystod y cyfnod anodd hwn i'r sector."
Daw hanner y pecyn ariannu o £200,000 o'r Gyllideb Digwyddiadau Mawr.
Dywedodd Dafydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, sy'n gyfrifol am ddigwyddiadau mawr:
"Mae'n bwysig ein bod yn cefnogi digwyddiadau mawr drwy'r cyfnod heriol hwn, felly byddant dal yno pan fyddwn yn dechrau dychwelyd i normal ar ôl y pandemig.
"Rydyn ni’n deall pa mor hanfodol yw'r sioeau hyn i'r sector, nid yn unig yn eu helpu i arddangos cynnyrch o Gymru, ond hefyd adeiladu drwy greu perthynas ag eraill o'r diwydiant amaethyddol, a gobeithiwn y bydd y cyllid hwn yn rhoi'r cymorth angenrheidiol iddynt gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf."
Wrth ystyried pwysigrwydd sioeau amaethyddol a'r effaith y mae Covid19 wedi'i gael gyda'u canslo eleni, dros yr haf, comisiynodd y Gweinidog adolygiad annibynnol o sioeau amaethyddol ledled Cymru.
Gwnaeth yr adolygiad, a gynhaliwyd gan Aled Jones, Ysgolhaig Nuffield a gwblhaodd astudiaeth ryngwladol i ddyfodol sioeau a chymdeithasau amaethyddol, gyfres o argymhellion i gefnogi gwydnwch ac i adfer sioeau amaethyddol y flwyddyn nesaf.
Mae'r Gweinidog wedi derbyn holl argymhellion yr adolygiad.
Felly, mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi cronfa arloesi newydd heddiw i helpu cymdeithasau sioeau i adfer sioeau yn 2021.
Bydd hefyd yn gyfle i ystyried arbedion effeithlonrwydd er mwyn gwella ymgysylltiad a chynnig profiad gwell i bob cystadleuydd.
Mae argymhellion eraill yn yr adolygiad annibynnol yn cynnwys yr angen i Lywodraeth Cymru lunio canllawiau i drefnwyr sioeau ynghylch y trefniadau ar gyfer cynnal digwyddiadau yn 2021 yn unol ag unrhyw gyfyngiadau iechyd cyhoeddus.
Argymhellwyd hefyd y dylid annog mwy o gydweithio rhwng sioeau drwy Gymdeithas y Sioeau a Sefydliadau Amaethyddol (ASAO) yn ogystal â chyflwyno hyfforddiant strwythuredig i unigolion sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli o fewn cymdeithasoedd sioeau.
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig:
"Mae gan sioeau amaethyddol hanes hir a mawreddog ac maent yng nghanol ein cymunedau gwledig. Roedd cyfyngiadau Covid19 yn arwain at ganslo sioeau eleni ac mae hyn wedi cael effaith ddifrifol ar bob cymdeithas a'u gwytnwch yn y dyfodol.
"Dyna pam y comisiynais adolygiad annibynnol o sioeau amaethyddol ledled Cymru a helpu i nodi pa gymorth a allai fod ei angen arnyn nhw. Hoffwn ddiolch i Aled am ei waith ar yr adolygiad ac mae'n bleser gen i gadarnhau fy mod yn derbyn pob argymhelliad.
"Bydd y gronfa arloesi newydd yn helpu i gefnogi ein Sioeau ar yr adeg anodd hwn ac yn helpu paratoadau i adfer y sioeau ar gyfer y tymor nesaf. Mae ein sioeau amaethyddol wedi gwneud pethau arloesol iawn i gynnal digwyddiadau rhithwir eleni. Rwyf am i ni adeiladu ar hyn a chydweithio i sicrhau dyfodol cryf i'n Sioeau yng Nghymru."
Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd fod dros 81% o geisiadau BPS 2020 wedi'u prosesu i'w talu ar ddiwrnod agoriadol y cyfnod talu. Daeth cyfnod ymgeisio Cynllun Cymorth BPS i ben ar 27 Tachwedd. Bydd taliadau'n cael eu gwneud o 7 Rhagfyr i'r busnesau fferm cymwys hynny nad yw eu cais BPS 2020 wedi'i brosesu i'w dalu.