Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi cyhoeddi y bydd gwerth dros £200,000 o grantiau yn cael eu dyrannu i wyth partneriaeth ar draws Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cadarnhaodd Ysgrifennydd yr Economi fod wyth sefydliad gwahanol ledled Cymru, gan gynnwys awdurdodau lleol a chymdeithasai tai, wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau i raglen Cyfuno Llywodraeth Cymru.

Ers cychwyn y rhaglen yn 2015 mae rhaglen Cyfuno: Creu Cyfleoedd drwy Ddiwylliant wedi gweithio gyda thros 5,000 o bobl a 150 o bartneriaid i ddarparu amrywiaeth eang iawn o brosiectau i bobl ifanc ac oedolion ledled Cymru. Mae’r rhaglen wedi galluogi aelodau’r gymuned i ehangu eu gorwelion a dod yn fwy hyderus, meithrin sgiliau ac ennill cymwysterau drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol. Mae pobl ifanc wedi bod yn rhedeg amgueddfeydd a chestyll, ac mae gweithiau celf enwog yn ymweld ag ysgolion cynradd ac operâu proffesiynol yn cael eu perfformio ar fysiau ysgol. Mae oedolion wedi gwirfoddoli ac ennill cymwysterau i wella eu gobaith o gael swydd, ac wedi cymryd rhan mewn cynlluniau i hybu eu hiechyd a’u cynhwysiant digidol.  

Bydd y cylch diweddaraf hwn o gyllid Cyfuno yn galluogi partneriaethau arloesol i drawsnewid llawer mwy o fywydau yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Bydd awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a rhaglenni cyflogaeth yn cysylltu’n uniongyrchol ag amgueddfeydd, theatrau, llyfrgelloedd a safleoedd diwylliannol eraill, gan sicrhau bod pawb yn gallu manteisio at raglenni diwylliannol

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:  

“Mae Cyfuno yn rhaglen ymyrraeth arloesol, am gost isel sy’n hyrwyddo cydweithio i wasanaethu anghenion pobl Cymru yn well. Ers lansio’r rhaglen cyfuno rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol, safleoedd treftadaeth, theatrau ac eraill i annog miloedd o bobl na fyddent fel arfer wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol, i fod yn rhan o bethau. Rwy’n falch iawn o allu neilltuo dros £200,000 i wyth prosiect newydd ledled Cymru a fydd yn sicrhau y gall y gwaith pwysig hwn barhau."

Sefydliad Arweiniol Grant 2017-18

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili - £39,489Amgueddfa Stori Caerdydd - £25,000Dinas a Sir Abertawe - £25,000Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - £18,585Cartrefi Castellnedd Port Talbot - £25,000Cyngor Gwynedd - £25,000Cyngor Sir Gaerfyrddin - £24,500Cyngor Dinas Casnewydd - £24,933.