Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd pecyn ariannol o £20 miliwn ar gael i gefnogi’r GIG a’i bartneriaid yng Nghymru yn ystod cyfnod prysur y gaeaf.
Bydd £16 miliwn o gyllid yn cael ei ddyrannu i’r Byrddau Iechyd Lleol i’w helpu i roi’r camau sydd wedi’u nodi yn y cynlluniau cyflawni lleol ar gyfer y gaeaf ar waith, ar y cyd â’r gwasanaeth ambiwlans, awdurdodau lleol a phartneriaid yn y trydydd sector.
Bydd yr arian hwn yn helpu pobl i gael gofal yn nes at eu cartrefi. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod digon o gapasiti ar gael mewn ysbytai a bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty a mynd adref pan fyddant yn barod.
Bydd y £4 miliwn arall yn ariannu blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer cyfnod y gaeaf. Bydd yr arian yn cael ei dargedu at y meysydd canlynol:
- Ehangu’r mynediad at feddygon teulu fel bod gwasanaeth ar gael fin nos ac ar benwythnosau, yn ogystal ag ar wyliau banc mewn rhai ardaloedd, i helpu pobl i gael gofal yn nes at eu cartrefi
- Helpu pobl hŷn sydd wedi cwympo, ond heb gael anaf, i aros gartref neu mewn cartrefi gofal
- Cynyddu nifer y parafeddygon a’r nyrsys sydd ar gael yng nghanolfannau cyswllt clinigol y gwasanaeth ambiwlans, i roi cyngor dros y ffôn a helpu i atal pobl rhag teithio i’r ysbyty yn ddiangen
- Cynyddu capasiti yn yr Adrannau Brys i hwyluso llif cleifion a helpu i adsefydlu pobl hŷn yn eu cartrefi ar ôl iddynt gael eu hasesu yn yr adran
- Lledaenu arferion da drwy Gymru ar sail cynllun peilot llwyddiannus gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru i ddefnyddio parafeddygon medrus iawn i helpu i gadw pobl gartref
- Cefnogi’r fenter ‘Fy Iechyd y Gaeaf Hwn’ er mwyn helpu clinigwyr sy’n ymweld â phobl yn eu cartrefi i ddeall mwy am eu cyflyrau hirdymor a’u hatal rhag gorfod mynd i’r ysbyty pan fyddai gofal o fath arall yn diwallu eu hanghenion yn well.
Dywedodd Vaughan Gething:
“Gaeaf y llynedd oedd un o’r rhai anoddaf i’r GIG ei wynebu ers sawl blwyddyn.
“Roedd cyfuniad o luwchfeydd a thywydd rhewllyd, mwy o bobl yn defnyddio gwasanaethau meddygon teulu a gofal brys, mwy o bobl hŷn â chyflyrau cymhleth yn cael eu derbyn i’r ysbyty, ynghyd â’r nifer fwyaf o achosion o’r ffliw ers y pandemig yn 2009, yn golygu bod ein Gwasanaeth Iechyd o dan bwysau na welwyd mo’i debyg.
“Mae’n deyrnged i’n staff ardderchog ar bob lefel ar draws y GIG, y gwasanaethau cymdeithasol a’r trydydd sector bod mwyafrif helaeth y cleifion wedi cael gofal amserol o ansawdd uchel. Ond mae hi bob amser yn bosib gwneud mwy i sicrhau bod GIG Cymru a’r awdurdodau lleol yn barod ar gyfer y gaeaf. Mae ystyried lles y staff yn rhan o hynny.
“Rydym wedi dysgu o’n profiadau o aeafau’r gorffennol, a bydd y £20 miliwn rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn helpu GIG Cymru a’i bartneriaid i wella’r ffordd y mae’r holl system iechyd a gofal cymdeithasol yn darparu ei gwasanaethau yn ystod y misoedd nesaf.
“Rwy wedi pendefynu dyrannu’r arian hwn yn gynt nag y gwnaed yn y gorffennol, er mwyn gwneud yn siŵr bod y timau iechyd a gofal lleol mor barod ag y gallant fod ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau.”