Neidio i'r prif gynnwy

Mae £1m i gael ei fuddsoddi i ddatblygu sgiliau staff sy'n addysgu'r cwricwlwm i blant 3 i 7 oed yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Cyfnod Sylfaen yn annog plant i fod yn greadigol a defnyddio'u dychymyg, sy'n gwneud dysgu'n fwy o hwyl ac yn fwy effeithiol.  Caiff y cyllid ei ddefnyddio i ddatblygu Rhwydwaith Rhagoriaeth y Cyfnod Sylfaen, a fydd yn help i rannu arferion effeithiol ac a fydd yn cydweithio'n agos â'r Rhwydweithiau Rhagoriaeth Cenedlaethol mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg a Mathemateg, sydd eisoes yn cael eu datblygu.

Yn sgil gwerthusiadau annibynnol a gynhaliwyd yn ddiweddar, lle mae'r Cyfnod Sylfaen yn cael ei weithredu'n dda mae'n codi lefelau cyrhaeddiad pob plentyn, ond tynnwyd sylw at yr angen am fwy o gysondeb.

Bydd y rhwydwaith rhagoriaeth newydd yn:

  • Helpu i gryfhau'r cysylltiadau rhwng ysgolion, lleoliadau, consortia ac awdurdodau lleol, a phrifysgolion er mwyn datblygu gwaith ymchwil ar ddysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr y Cyfnod Sylfaen.
  • Defnyddio tystiolaeth fyd-eang a lleol er mwyn datblygu dysgu proffesiynol ar gyfer staff y Cyfnod Sylfaen a gydnabyddir yn genedlaethol.
  • Cefnogi Ysgolion Rhwydweithiau Arloesi i ddatblygu dysgu proffesiynol ar gyfer y cwricwlwm newydd.
  • Gwella profiadau'r plant o'r Cyfnod Sylfaen mewn lleoliadau ac ysgolion ledled Cymru.

Dywedodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:

"Mae'r dystiolaeth yn dangos bod y Cyfnod Sylfaen yn gweithio i'n disgyblion ifancaf, a bod y mwyafrif yn sicrhau'r canlyniadau sy'n ddisgwyliedig ar gyfer eu hoedran nhw.

"Dw i eisiau gwneud yn siwr ein bod ni'n adeiladu ar y cynnydd yma ac yn parhau i gefnogi ein pobl ifanc drwy gydol eu blynyddoedd cynnar er mwyn sicrhau eu bod yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Fe fydd y buddsoddiad yma yn ein helpu i ddatblygu sgiliau'r rheini sy'n addysgu'r Cyfnod Sylfaen, creu cyfleoedd hyfforddi newydd a sicrhau cysondeb ledled Cymru."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:

"Mae'r £1m ar gyfer Rhwydwaith Rhagoriaeth y Cyfnod Sylfaen yn rhan o'n buddsoddiad parhaus i godi safonau ar draws ein system addysg. Rydyn ni am wneud yn siwr bod ein disgyblion yn meithrin y sgiliau ac yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i lwyddo a ffynnu yn y byd modern."

Dywedodd yr Athro Iram Siraj o'r Sefydliad Addysg, Llundain,

"Mae'r Cyfnod Sylfaen yng Nghymru yn arwain y ffordd o fewn y DU o ran darparu cwicwlwm a dull gweithredu sy'n sicrhau parhad di-dor, gwirioneddol yn nysg plant o'r blynyddoedd cynnar i ganol yr ysgol gynradd. Rydyn ni wedi gweld pethau'n symud i ffwrdd oddi wrth ystafelloedd dosbarth gor-ffurfiol sy'n cael eu gor-reoli i fod yn ardaloedd lle mae dysgu drwy brofiad, ymchwilio a chreadigrwydd yn cael ei werthfawrogi ochr yn ochr â llythrennedd a rhifedd."

Dywedodd yr Athro David Egan, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd,

"Mae Rhwydwaith Rhagoriaeth y Cyfnod Sylfaen yn rhywbeth i'w groesawu'n fawr er mwyn hyrwyddo'r arferion dysgu ac addysgu rhagorol a ddylai fod yn ganolog i ddatblygu'r cwricwlwm ar gyfer plant 3-7 oed y dyfodol."

Dywedodd yr Athro Edward Melhuish, Athro Datblygiad Dynol, Birkbeck, Prifysgol Llundain,

"Eisoes mae'r datblygiadau i'r Cyfnod Sylfaen wedi gwella darpariaeth y blynyddoedd cynnar i blant Cymru. Mae'r buddsoddiad newydd yn Rhwydwaith Rhagoriaeth y Cyfnod Sylfaen yn argoeli ar gyfer gwelliannau pellach eto ym maes datblygiad proffesiynol, a fydd o fudd i bawb."