Neidio i'r prif gynnwy

Mae prosiectau, fel gwelliannau i fannau gwyrdd lleol, ardal addysgol awyr agored i blant a rhaglenni cadwraeth i ddiogelu anifeiliaid a phlanhigion prin, ar fin elwa.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rhaglen ariannu newydd yw'r cynllun sy'n cael ei reoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA). 

Bydd grantiau'n cael eu rhoi i gyfanswm o 27 o brosiectau ledled Cymru yn rownd ariannu gyntaf y cynllun. 

Gwnaeth Llywodraeth Cymru greu'r cynllun i gefnogi cymunedau lleol a phrosiectau amgylcheddol mewn ardaloedd y mae safleoedd tirlenwi wedi effeithio arnyn nhw. Treth Gwarediadau Tirlenwi (LDT) newydd Cymru, a gymerodd le Treth Tirlenwi'r DU ym mis Ebrill 2018, fydd yn talu amdano. 

Mae'r LDT yn dreth ar yr hyn y ceir gwared arno mewn safleoedd tirlenwi a chaiff ei chodi yn ôl pwysau'r gwastraff. 

Dyma'r tro i cyntaf i arian o'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi gael ei ddefnyddio i gefnogi cynllun ariannu penodol Gymreig. 

Bydd hyd at £50,000 yr un ar gael i helpu prosiectau llwyddiannus sy'n ymdrin â'r amgylchedd, natur, ailddefnyddio, bioamrywiaeth a rheoli gwastraff. 

Dyma rai o'r prosiectau fydd yn cael arian: 

  • Pembrokeshire Remakery - £49,900 i helpu prosiect cymunedol sy'n ailaddysgu'r gymuned sut i atgyweirio a thrwsio a chyfrannu at leihau'r gwastraff sy'n mynd i domennydd sbwriel. 

  • Canolfan Teuluoedd y Betws, Sir Gaerfyrddin - £8,000 i brosiect i wella safle awyr agored lle gall rheini a'u plant ddysgu sut i arddio, tyfu eu bwyd eu hunain a gwneud mwy o weithgarwch corfforol. 
  • Ysgol y Lawnt, Caerffili - £10,600 i gefnogi prosiect i weddnewid tir yr ysgol o fod yn goedlan brysgwydd wyllt a segur yn safle ar gyfer gweithgareddau ac addysg awyr agored fydd yn gwella lles disgyblion a bioamrywiaeth. 
  • Menter Môn - £49,900 i gefnogi prosiect sy'n mynd i'r afael â'r minc ar Ynys Môn a'i fygythiad i fioamrywiaeth yr ynys. O wneud dim, gallai'r ysglyfaethwr estron hwn ddifa llygod y dŵr a rhydyddion yr ynys. 
  • Ymddiriedolaeth Natur Vincent yn y Gogledd - £49,900 ar gyfer prosiect sy'n gweithio gyda chymunedau lleol ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr newydd i helpu'r boblogaeth o felaod i ymadfer ac i oroesi yn y tymor hir. 

Mae ceisiadau ar gyfer yr ail rownd ariannu newydd gau. Ond caiff dwy rownd ariannu eu cynnal bob blwyddyn. Roedd yr ail rownd ariannu'n gwahodd prosiectau o arwyddocâd cenedlaethol sy'n costio rhwng £50,000 a £250,000 i ymgeisio. 

Roedd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn uchel ei chlod o'r cynllun a dywedodd y byddai'n arwain at nifer o fuddiannau amgylcheddol ehangach: 

"Rwy wrth fy modd bod y Dreth Gwarediadau Tirlenwi wedi helpu 27 o brosiectau gyda rhagor na £1miliwn trwy Gynllun Cymunedol newydd y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. 

"Daw'r prosiectau hyn â manteision mawr i gymunedau, yr amgylchedd a natur a bydd eu heffaith yn para am genedlaethau." 

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: 

"Gyda heriau Brexit ar ein gwarthaf, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn manteisio ar bob cyfle i ariannu prosiectau ymarferol sy'n dod â budd i'r bobl. 

"Hoffwn ddymuno pob lwc i bawb sy'n gwneud cais yn y rownd nesaf." 

Dywedodd Ruth Marks, Prif Weithredwr WCVA: 

"Mae'r ymgeiswyr llwyddiannus yn cynrychioli amrywiaeth gyffrous o brosiectau o bob rhan o'r wlad. O weithredu i wella cyfleusterau cymunedol lleol, gwella'r amgylchedd naturiol a lleihau gwastraff, caiff y prosiectau hyn effaith ardderchog yng Nghymru. 

"Gwnaeth y rownd gyntaf ennyn llawer iawn o ddiddordeb ac mae WCVA yn falch o gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn y Cynghorau Gwirfoddol Sirol i roi'r cynllun hwn ar waith."