Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi y bydd mwy na £16m o gyllid yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau yn y Gogledd.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arian yn rhoi hwb i fusnesau yn sector ynni’r môr ac i raglenni hyfforddi i bobl sydd wedi bod yn ddi-waith neu’n economaidd anweithgar am gyfnod hir.

Bydd tua 50 o fusnesau yn elwa ar gydweithredu arbenigol â phrifysgolion ym maes ymchwil a datblygu. Hefyd, bydd 2,000 o bobl ddi-waith yn cael cymryd rhan mewn rhaglenni hyfforddi i ddatblygu sgiliau newydd a gwella’u cyfle i gael swyddi.

Dywedodd Mark Drakeford: 

“Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig o gyllid yr UE a fydd yn ariannu gwaith arloesi arbenigol iawn mewn sector pwysig o’n heconomi ac yn rhoi cymorth i bobl sy’n cael anhawster i fynd i mewn i fyd gwaith.

“Mae’r prosiectau hyn yn enghreifftiau da o’r ffordd y mae cronfeydd yr UE yn cael eu defnyddio yng Nghymru i helpu busnesau i dyfu; i wella bywydau pobl ac i gryfhau ein heconomi.”

Bydd tua £12m o gymorth ar gael i brosiect SEACAMS 2 Prifysgol Bangor, sy’n werth £17m. Nod y prosiect yw ehangu sector ynni’r môr yng Nghymru dros y pedair blynedd nesaf. 

Bydd arbenigwyr ym mhrifysgolion Bangor ac Abertawe yn darparu rhaglenni ymchwil a datblygu arbenigol i helpu busnesau i fanteisio ar gyfleoedd masnachol a chreu cynhyrchion a phatentau newydd.

Nod yw prosiect yw creu mentrau newydd yn y sector a helpu i greu swyddi mewn busnesau sy’n bodoli’n barod.

Dywedodd yr Athro Colin Jago, cyfarwyddwr prosiect SEACAMS: 

“Yn ystod cam ariannu cyntaf SEACAMS, byddwn yn adeiladu ar y pum mlynedd o waith rydyn ni wedi’i wneud gyda byd diwydiant. Mae cyfuno arbenigedd prifysgolion Bangor ac Abertawe yn rhoi inni gyfoeth o wybodaeth a fydd yn ein galluogi i ddarparu gwybodaeth dechnegol fanwl i gefnogi’r datblygiadau cyffrous hyn, a allai newid y ffordd rydyn ni’n diwallu ein hanghenion ynni yng Nghymru.”

Bydd £4.8m arall yn cael ei roi’n gymorth i brosiect OPUS Cyngor Conwy. Nod y prosiect, dros y tair blynedd nesaf, yw gwella sgiliau personol pobl 25 oed a hŷn sy’n economaidd anweithgar yn y Gogledd a gwella’u cyfle i gael swyddi.

Bydd y cynllun yn darparu amrywiaeth o raglenni sgiliau, cyfleoedd hyfforddi a lleoliadau ar gyfer pobl sydd dan anfantais yn y farchnad swyddi am nifer o resymau, gan gynnwys problemau iechyd meddwl, anableddau a sgiliau sylfaenol gwael.

Bydd OPUS yn creu 1,000 o gyfleoedd profiad gwaith a gwirfoddoli, a’r bwriad yw helpu 1,000 o bobl i ennill cymwysterau newydd neu dystysgrifau seiliedig ar waith. Disgwylir y bydd mwy na 300 o bobl yn cael eu helpu’n uniongyrchol i ddychwelyd i fyd gwaith.

Dywedodd y Cyngorydd Sue Lloyd-Williams, yr Aelod Cabinet dros Dai, Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yng Nghyngor Conwy:

“Rydyn ni’n falch iawn ein bod wedi llwyddo i gael cyllid yr UE i roi OPUS ar waith.

“Mae hwn yn brosiect pwysig i’r Gogledd, a bydd yn rhoi lefel ychwanegol o gefnogaeth a chyfle i bobl sydd dan anfantais yn y farchnad swyddi. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio â chyflogwyr ledled y rhanbarth yn ystod y blynyddoedd nesaf.”