Neidio i'r prif gynnwy

Bydd £1.5m o gyllid yr UE a Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i helpu menywod mewn gwaith sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol i adeiladu dyfodol gwell.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford ac Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip, Julie James £1.2m o gyllid yr UE, ynghyd â £300,000 yn uniongyrchol oddi wrth Lywodraeth Cymru, ar gyfer rhaglen Limitless, gwerth £1.7m, yn ystod ymweliad â chanolfan Cymorth i Ferched Cymru yng Nghaerdydd.

Dan arweiniad Threshold DAS, sefydliad sy'n helpu pobl sydd wedi dioddef camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol, bydd y rhaglen Limitless yn gweithio gyda menywod i'w helpu i gymryd y cam nesaf i adeiladu dyfodol mwy disglair.

Bydd yn darparu cymorth penodol, yn amrywio o godi hyder i helpu i ennill cymwysterau ffurfiol ac achrededig, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â thîm Llywodraeth Cymru ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Bydd Limitless hefyd yn helpu menywod sy'n ystyried sefydlu busnes a bod yn hunangyflogedig i gyflawni eu nodau.

Dywedodd yr Athro Drakeford:

"Mae un fenyw o bob pump wedi dioddef trais rhywiol, ac un o bob pedair wedi dioddef camdriniaeth ddomestig – allwn ni ddim caniatáu i hyn barhau.

"Mae Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â phartneriaid, wedi ymrwymo'n llwyr i fynd i'r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol, a helpu menywod sydd wedi dioddef troseddau o'r fath i adeiladu dyfodol gwell gyda mwy o annibyniaeth economaidd.

"Ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn, rwy'n falch iawn o fedru cyhoeddi cyllid newydd ar gyfer Threshold DAS, a fydd yn darparu cymorth gwerthfawr tu hwnt i helpu menywod i fagu hyder a datblygu sgiliau i adeiladu eu gyrfaoedd."

Ychwanegodd Ms James:

"Roedd yn anrhydedd cael cyfarfod cynifer o fenywod dewr yma heddiw, sydd wedi dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol ac wedi llwyddo i wyrdroi eu bywydau er gwell.

"Bydd y rhaglen Limitless yn adeiladu ar y gwaith da mae Threshold DAS eisoes yn ei wneud, gan helpu menywod i fagu hyder a byw bywydau annibynnol. Dyma gam arall yn y cyfeiriad cywir - gan weithio tuag at Gymru lle gall pawb fyw heb ofn."

Dywedodd Victoria Pedicini, prif swyddog gweithredol Threshold DAS:

"Mae camdriniaeth ddomestig yn digwydd yn eang, yn anodd cael gwared ohono, ac yn cael effaith ddifrifol ar iechyd a llesiant menywod.

"Ein nod yw helpu unigolion i oroesi, ond hefyd i dyfu a ffynnu, gan adeiladu bywyd yn rhydd rhag camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol a thorri'r cylch andwyol hwn.

"Rydyn ni wrth ein boddau o fod wedi cael y cyllid Ewropeaidd hwn ar gyfer prosiect Limitless, sy'n rhoi cyfle i ni adeiladu ar ein darpariaeth addysgol i gynnig sgiliau i fenywod sy'n gyflogedig ar hyn o bryd. Bydd yn ffordd o newid llwybr gyrfa neu arwain at ddyfodol mwy disglair.

"Mae nifer o fenywod sydd wedi dioddef camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol yn aml am roi rhywbeth yn ôl i gymdeithas ar ôl cael cymorth eu hunain, gan helpu eraill mewn sefyllfaoedd tebyg. Bwriad ein cymhwyser newydd yw rhoi sgiliau i ddysgwyr er mwyn cynnig cymorth diogel ac effeithiol, gan godi eu hyder a'u hunan-barch.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill yn y sector i ddatblygu'r cymhwyster, ac yn gobeithio ymhen amser y bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno drwy Gymru gyfan."