Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi bron i £15m o gyllid ar gyfer trawsnewid sut y mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu yn ardal Bae Abertawe.
Yr arian hwn yw'r gyfran ddiweddaraf i'w chyhoeddi o Gronfa Trawsnewid £100m Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Mr Gething y bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau peilot a fydd yn dod â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn nes at ei gilydd ac yn darparu gofal yn nes at gartrefi pobl. Os byddant yn llwyddiannus, gellir cyflwyno'r ffyrdd newydd hyn o weithio ledled Cymru gyfan.
Crëwyd y Gronfa i gefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, Cymru Iachach.
Bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng dau brosiect, sy'n cael eu harwain gan Bartneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg.
- Bydd menter 'Ein Cynllun Cymdogaeth' Gorllewin Morgannwg yn cael £5.9m i ddatblygu ffyrdd o ddod â gwasanaethau gofal ynghyd i sicrhau gwasanaeth di-dor i gleifion, a grymuso pobl a chymunedau i reoli eu hiechyd a'u llesiant eu hunain. Bydd y prosiect yn cynnwys ardaloedd awdurdodau lleol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
- Bydd £8.8m ar gyfer profi'r model "Dull System Gyfan" mewn saith o wahanol ardaloedd, gan adeiladu ar y gwaith sydd eisoes ar y gweill yn Cwmtawe. Daw'r prosiectau â chymunedau, unigolion a gwahanol sefydliadau yn nes at ei gilydd i ddarparu gofal yn nes at y cartref. Bydd y prosiectau yn dechrau yng Nghwmtawe a Chastell-nedd ac yna yn cael eu datblygu ymhellach yn Llwchwr a'r Cymoedd Uchaf cyn cael eu cyflwyno yn ardaloedd Dyffryn Afan, Bae Abertawe, Dinas Abertawe a Phenderi.
Dywedodd Mr Gething:
"Mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r cyllid diweddaraf o'n Cronfa Trawsnewid i ddatblygu ffyrdd newydd arloesol o weithio yn ardal Bae Abertawe. Mae angen i ni drawsnewid y modd yr ydym yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru os ydym am lwyddo i ddiwallu'r galw am y gwasanaethau hynny yn y dyfodol.
Mae ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, Cymru Iachach yn esbonio sut y gallwn gyflawni hyn. Yn fyr, mae angen i ni greu ffyrdd newydd o weithio a darparu gwasanaethau yn nes at y cartref er mwyn lleihau'r pwysau ar ysbytai. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut y bydd y prosiectau ym Mae Abertawe yn datblygu ac yn gobeithio eu gweld yn cael eu cyflwyno ledled Cymru."
Y Cynghorydd Rob Jones yw arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg.
Dywedodd:
"Mae'r buddsoddiad hwn yn newyddion gwych i ni fel rhanbarth. Mae dulliau newydd ac arloesol o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn newid y ffordd y mae pobl yn cael eu cefnogi. Bydd y cyllid hwn yn ein helpu i wneud rhagor o gynnydd o ran cynyddu'r asedau sydd ar gael mewn cymunedau, a bydd yn galluogi gwasanaethau i weithio mewn ffordd fwy cydgysylltiedig."
Dywedodd pennaeth gofal sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Hilary Dover:
"Rydym yn falch iawn o fod wedi llwyddo i sicrhau cyllid gweddnewid er mwyn datblygu'r model newydd o ddarparu gwasanaethau sylfaenol yng Nghymru ymhellach.
Mae hyn yn adeiladu ar y model yr ydym eisoes wedi dechrau ei gyflwyno yn Cwmtawe, sydd wedi cael derbyniad da gan y gymuned ehangach a chan staff, sef gwella mynediad at wasanaethau."