Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gryfhau gwasanaethau gofal critigol er mwyn gallu parhau i ddarparu'r gofal gorau posibl i'r bobl fydd ei angen yn y dyfodol.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gryfhau gwasanaethau gofal critigol er mwyn gallu parhau i ddarparu'r gofal gorau posibl i'r bobl fydd ei angen yn y dyfodol.
Bydd hefyd yn helpu ail gynllunio’r ffordd mae gwasanaethau gofal critigol yn cael eu darparu a datblygu model genedlaethol o ofal ar gyfer rheini sydd mewn gofal critigol.
Yn ogystal, Bydd y model hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu ac ehangu'r gweithlu, gwella'r system o drosglwyddo cleifion sy'n ddifrifol wael a chynyddu nifer y gwelyau gofal critigol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
"Mae gofal critigol yn un o'r meysydd hynny yn y GIG sydd wedi profi'r straen a'r heriau sy'n wynebu'r system gyfan. Er hynny, mae'r bobl hynny sydd angen gofal critigol yn parhau i gael gofal o safon uchel o ganlyniad i ymroddiad a thrugaredd y staff.
"Y mis diwethaf, cyhoeddais ein cynllun tymor hir ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol, a oedd yn nodi sut y bydd gwasanaethau yn cael eu haddasu i wynebu heriau'r dyfodol. Bydd cyllid heddiw yn ein helpu i wneud hyn o fewn gwasanaethau gofal critigol gyda gafael canolog mwy cadarn er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau cywir yn cael eu darparu yn y lle cywir ac ar yr adeg gywir er mwyn sicrhau gwasanaethau mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol."
Bydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen, fydd yn cael ei gadeirio gan y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, yr Athro Chris Jones, yn cael ei sefydlu i ddatblygu'r model cenedlaethol ac i oruchwylio sut y mae'r cyllid yn cael ei ddyrannu.