Yn rhan o’i hymateb i Brexit, mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu cronfa newydd gwerth £1.5 miliwn fydd yn meithrin ac yn datblygu'r rhannau pob dydd o economi Cymru.
Mae'r Economi Sylfaenol, sy'n cyfrif am oddeutu 40% o swyddi Cymru, yn disgrifio'r sefydliadau, y BBaChau, y microfusnesau a'r mentrau cymdeithasol sydd â’u gwreiddiau mewn cymunedau lleol ac sy'n darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau y mae ar bobl eu hangen.
Gan amrywio o adeiladu a gofal plant, i ofal cymdeithasol a manwerthu, mae'r Economi Sylfaenol yn disgrifio'r swyddi sy'n darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau y mae pobl ledled Cymru yn dibynnu arnynt.
Mae Dirprwy Weinidog yr Economi, Lee Waters, yn cydnabod y cyfraniad y mae’r mathau hyn o gwmnïau'n ei wneud i lesiant a hunaniaeth cymunedau ledled Cymru.
Gan adeiladu ar yr ymrwymiad yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi i greu cymunedau cryfach a mwy cadarn, mae am i'r cyllid hwn gefnogi prosiectau fydd yn ein helpu i ddeall y ffordd orau o feithrin a datblygu’r Economi Sylfaenol er mwyn dadwneud y dirywiad mewn amodau gwaith, atal arian rhag gadael cymunedau Cymru a lleihau’r costau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â chadwyni cyflenwi estynedig.
Y nod, drwy wneud hyn, yw helpu i sicrhau bod y manteision yn cyrraedd y cymunedau hynny lle mae, yn hanesyddol, wedi bod yn anodd denu cwmnïau mawr.
Dywedodd Lee Waters:
"Mae gofal, tai, ynni ac adeiladu yn rhai o'r sectorau sy'n rhan o'r Economi Sylfaenol. Dyma'r diwydiannau a'r cwmnïau sydd yn ein cymunedau oherwydd bod ein pobl yno.
Mae'n cyfrif am oddeutu pedwar o bob deg swydd, ac am oddeutu £1 o bob £3 yr ydym yn eu gwario, ac mae'r cwmnïau hyn eisoes yn rhan sylweddol o'n heconomi. Drwy eu meithrin a'u datblygu ymhellach, dwi'n credu y gallwn wneud llawer i wella llesiant a gwella ansawdd bywydau pobl, ac i fynd i’r afael â rhai o’r problemau a’r pryderon a fynegwyd gan lawer o gymunedau yn eu hymateb i’r refferendwm ar Brexit.
Bydd ein cronfa newydd gwerth £1.5 miliwn yn profi ffyrdd arloesol o gefnogi a datblygu ein Heconomi Sylfaenol fel y gallwn rannu arferion da ledled Cymru. Dwi am iddo ariannu prosiectau arbrofol sy'n gydweithredol ac yn arloesol ac i herio'r ffyrdd confensiynol o wneud pethau.
Drwy roi lle a chefnogaeth i brosiectau sy'n herio'r sefyllfa fel y mae, dwi am rymuso llywodraeth leol, y cyhoedd yn ehangach a'r trydydd sector a busnesau i gydweithio er mwyn creu a chadw cyfoeth yn lleol.
Mae hwn yn fater o ddatblygu atebion creadigol i heriau lleol sydd wir yn diwallu anghenion ein cymunedau."
Cafodd yr £1.5 miliwn ei sicrhau fel rhan o gytundeb cyllidebol dros 2 flynedd gyda Plaid Cymru a bydd ar agor ar gyfer ceisiadau yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Cyhoeddwyd hyn ar yr un diwrnod â'r digwyddiad, a gynhaliwyd gan y Dirprwy Weinidog, i ddod â phartneriaid ac arbenigwyr at ei gilydd i ystyried y ffordd orau o gefnogi Economi Sylfaenol Cymru.