£880,000 ar gyfer awdurdodau lleol a £300,000 ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru i adolygu amddiffynfa rhag llifogydd a gwneud gwaith cynnal a chadw cyn y gaeaf.
Yr awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am reoli’r perygl o lifogydd gan nentydd a dŵr wyneb yn ogystal â rheoli eu amddiffyniadau arfordirol eu hunain. Mae hyn yn cynnwys arolygu a chynnal rhain yn gyson. Mae pob un o’r 22 o awdurdodau lleol wedi cael gwahoddiad i wneud cais am hyd at £40,000 yr un i wneud y gwaith a ganlyn:
- Gwaith cynnal a chadw hanfodol i asedau rheoli llifogydd, sy’n lleihau’r perygl llifogydd i eiddo, i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer y gaeaf,
- Mapio a chasglu data am asedau,
- Arolygu asedau er mwyn cofnodi eu lleoliad, cyflwr, cost eu trwsio, oes yr ased ac ati.
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am reoli asedau sy’n lleihau’r perygl o lifogydd gan brif afonydd a’r môr. Bydd y £300,000 yn sicrhau y gall Cyfoeth Naturiol Cymru wneud y gwaith cynnal a chadw ychwanegol a ganlyn:
- rheoli llystyfiant a choed ar argloddiau rhag llifogydd,
- rheoli sianeli (codi gwaddod a chwyn),
- symud rhwystrau oddi ar afonydd a sgriniau brigau,
- prynu offer a chyfarpar ychwanegol i wneud gwaith ymhellach o ran cynnal a chadw ac atgyfnerthu,
- cynnal ymarferion ychwanegol i sicrhau gwydnwch a pharodrwydd ar gyfer tywydd garw.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Dw i’n falch iawn o ddarparu’r cyllid hanfodol hwn ar gyfer arolygu ein hasedau a chadw a chynnal ein hamddiffynfeydd cyn y gaeaf. Mae’r gwaith hwn yn rhan hanfodol o’r hyn y mae Awdurdodau Rheoli Risg yn ei wneud i sicrhau bod ein hasedau’n parhau i weithio’n effeithiol mewn tywydd garw iawn. Rhoddir y cyllid hwn i helpu awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru i wneud y gwaith pwysig hwn i leihau’r perygl o lifogydd yn ein cymunedau.”