Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi bod dros £11m wedi ei neilltuo ar gyfer trawsnewid sut y mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu yn y Gogledd.
Bydd y cyllid yn cefnogi tri phrosiect gwahanol i ddod â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn nes at gartrefi pobl. Gallai'r ffyrdd newydd hyn o weithio gael eu cyflwyno ar draws Cymru gyfan yn y pen draw.
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y Gogledd a fydd yn arwain y gwaith hwn, a'r prosiectau hyn yw'r rhai diweddaraf i gael cyllid gan Gronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru, sy'n werth £100m.Crëwyd y Gronfa i gefnogi’r gwaith o helpu i gyflwyno modelau newydd ar raddfa ehangach er mwyn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ddi-dor, a hynny fel rhan o gynllun Cymru Iachach, sef cynllun tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Dyma fanylion y tri phrosiect:
- £2.32m i ddarparu Gofal Mewn Argyfwng Iechyd Meddwl Bydd y prosiect hwn yn darparu cymorth iechyd meddwl brys i'r rhai sydd mewn argyfwng. Mae'n lleoli ymarferwyr iechyd meddwl gyda chriwiau ambiwlans ac yn ystafelloedd rheoli'r heddlu. Hefyd bydd yn mynd ati i ddatblygu cymorth amgen na derbyn dioddefwyr i ysbytai, er enghraifft darparu cymorth drwy gaffis argyfwng a llochesau diogel, a chryfhau'r gwasanaethau sy'n darparu triniaeth i bobl yn eu cartrefi.
- £6m ar gyfer Trawsnewid Gwasanaethau yn y Gymuned. Bydd y prosiect hwn yn darparu gofal yn gynharach ac yn nes at gartrefi pobl drwy ddatblygu rhwydweithiau cymunedol, gweithio gyda'r trydydd sector i gefnogi gwasanaethau llesiant, hyrwyddo cynhwysiant ac annog pobl i gymryd rhan, a chydgysylltu rhagnodi cymdeithasol.
- £3m i ymyrryd yn gynnar a darparu cymorth i blant a phobl ifanc. Drwy sicrhau bod timau amlddisgyblaeth newydd yn ymyrryd yn gynnar, bydd y prosiect hwn yn gweithio i leihau nifer y plant sydd mewn gofal amser llawn parhaol ac i leihau'r amser a dreulir mewn gofal. Bydd hefyd yn gweithio i geisio atal bywyd teuluol rhag torri i lawr. Bydd hyn yn dod â buddion i blant a theuluoedd, ac yn lleihau'r pwysau ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
Dywedodd Mr Gething:
“Wrth i'n poblogaeth fynd yn hŷn, bydd mwy o bwysau ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a bydd y galw ar y gwasanaethau hynny yn mynd yn fwy cymhleth. Er mwyn inni allu ymateb i'r galw a sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yn addas i'r dyfodol, rhaid trawsnewid sut yr ydyn ni’n darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Cymru gyfan.
Bydd yn rhaid mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio, gan ddod â gwahanol wasanaethau at ei gilydd, a darparu gwasanaethau yn nes at y cartref er mwyn lleihau'r pwysau ar ysbytai. Mae Cymru Iachach yn disgrifio sut y gallwn ni gyflawni hyn, a bydd ein Cronfa Trawsnewid yn helpu i wireddu'n gweledigaeth drwy ariannu prosiectau arloesol sydd â'r potensial i gael eu cyflwyno a'u defnyddio ledled Cymru gyfan.”
Dywedodd Teresa Owen, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru:
"Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael y swm sylweddol hwn o gyllid i'n helpu i foderneiddio'r gwasanaethau i drigolion ar draws Gogledd Cymru. Rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarn i gynyddu ein hymdrechion i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol di-dor ar draws ein rhanbarth, yn seiliedig ar anghenion y bobl sy'n byw yma.
"Mae bob un ohonom eisiau gwella gwasanaethau i breswylwyr ac rydym wedi cytuno ar flaenoriaethau clir er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd. Mewn rhanbarth fel ein hun ni, mae'n hanfodol ein bod yn rhannu adnoddau, sgiliau a phrofiadau. Bydd y cyllid hwn yn ein helpu i wneud mwy o waith gyda rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ac i ddarparu gwasanaethau cymorth ag ymyrryd, a fydd yn allweddol i sicrhau Gogledd Cymru iachach.”