Neidio i'r prif gynnwy

Bydd £114m yn cael ei fuddsoddi yn 2019/20 i gefnogi amrywiol raglenni addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae hyn £7m yn fwy na 2018/19 a dyma'r bumed flwyddyn yn olynol i'r cyllid i gefnogi addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol Cymru gynyddu.  

Mae'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn dibynnu ar dros 300 o broffesiynau a swyddi sy'n cyfuno i ddarparu gofal i gleifion. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer lleoliadau addysg a hyfforddiant i gefnogi amrywiol swyddogaethau gan gynnwys:

  • Meddygon meddygaeth frys, trawma ac orthopedeg a radioleg; 
  • Nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd; 
  • Parafeddygon, ffisiotherapyddion, radiograffwyr, therapyddion lleferydd ac iaith a therapyddion galwedigaethol;
  • Meddygon Cyswllt. 
Yn dilyn cyhoeddi Cymru Iachach, cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, bydd cyllid hefyd yn cael ei fuddsoddi i sicrhau bod modd i weithlu'r dyfodol ddygymod â'r heriau sydd i'w gweld yn y cynllun.

Bydd mwy o gyllid ar gael i gefnogi ymarfer uwch / sgiliau estynedig a datblygu gweithwyr cymorth gofal iechyd, ac fe fydd y cyllid yn cael ei gyfeirio i feysydd lle bydd modd i'r system iechyd weld y manteision mwyaf.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

“Mae mwy o bobl yn gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol heddiw nag a fu ar unrhyw adeg yn ei hanes, gyda phob un ohonynt yn ceisio atal problemau a gofalu am aelodau o'r gymdeithas ar draws pob cymuned yng Nghymru.

“Rwy'n hynod o falch o'n buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant i gynnal y gweithlu iechyd ar draws Cymru. Bydd y lefel uwch nag erioed o gyllid yn cael ei ddefnyddio i gynnal y nifer fwyaf erioed o gyfleoedd hyfforddi yng Nghymru i weithwyr iechyd proffesiynol.

“Mae sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn darparu mwy o gyfleoedd i ystyried heriau presennol a'r dyfodol i'r gweithlu, a'r ffordd y gall addysg a hyfforddiant gefnogi'r newidiadau gofynnol i roi sylw i'r heriau hyn. Gan weithio gyda phartneriaid allweddol, bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn darparu arweiniad yn y maes hwn."