Heddiw cyhoeddodd Lesley Griffiths gymorth grant ar gyfer Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd gwerth £1.1 miliwn ar gyfer lladd-dai bach a chanolig yng Nghymru.
Bydd y cymorth hwn yn galluogi’r busnesau hyn i fuddsoddi mewn gwelliannau i sicrhau y byddant yn gallu gwrthsefyll unrhyw newidiadau ac yn gallu parhau i ddarparu cyfleusterau lladd sydd yn aml mewn ardaloedd diarffordd.
Bydd y cymorth grant yn cynnwys buddsoddiad cyfalaf ac yn darparu cyngor ar les anifeiliaid, gwella busnes a materion technegol. Bydd yn talu am seilwaith a chyfleusterau sy’n hyrwyddo lles a hefyd am osod a diweddaru systemau monitro teledu cylch cyfyng.
Caiff manylion y cynllun grant eu datblygu yn ystod y misoedd nesaf, ar ôl ymgynghori â’r diwydiant i sicrhau bod y cymorth yn gallu diwallu anghenion y sector. Caiff ei lansio cyn toriad yr haf.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Mae diogelu iechyd a lles anifeiliaid fferm sy’n aros yng Nghymru gydol eu bywydau, hyd at a chan gynnwys y man lladd, yn flaenoriaeth uchel imi.
“Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi y byddaf yn lansio cymorth grant ar gyfer Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd gwerth £1.1 miliwn, yn benodol ar gyfer lladd-dai bach a chanolig yng Nghymru. Bydd y cymorth hwn yn galluogi’r busnesau hyn i fuddsoddi mewn gwelliannau i sicrhau y byddant yn gallu gwrthsefyll unrhyw newidiadau ac yn gallu parhau i ddarparu cyfleusterau lladd sydd yn aml mewn ardaloedd diarffordd.
“Mae lladd-dai bychain yn cefnogi cadwyni cyflenwi byr a lleol ac yn darparu cyfleusterau prosesu ar gyfer cynhyrchwyr da byw bach. Mae hyn yn dda i les anifeiliaid gan ei fod yn lleihau’r pellter a deithir o’r fferm i’r lladd-dy. Mae’n bosibl mai’r lladd-dy yw’r gyrchfan gyntaf a’r olaf ar gyfer anifeiliaid sy’n gadael y fferm ac mae’n bwysig bod cyn lleied o straen â phosib yn ystod y trosglwyddo hwn.
“Bydd y grant hefyd yn helpu’r busnesau hyn i osod a gwella systemau monitro teledu cylch cyfyng. Rwyf am helpu busnesau i roi systemau ar waith tra bo Lloegr yn llunio deddfwriaeth ar gyfer systemau teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai. Rwyf am i ladd-dai Cymru fod yn gwbl barod wrth imi barhau i archwilio cyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth yn y tymor hir.
“Byddwn yn cydweithio â’r diwydiant i ddatblygu’r cynllun fel y bydd yn diwallu anghenion y diwydiant, ac rwy’n disgwyl ei lansio cyn toriad yr haf.
“Mae lladd-dai bychain wedi goroesi’n dda yng Nghymru er gwaethaf nifer o heriau sydd eisoes wedi gweld gostyngiad cyson yn y niferoedd mewn ardaloedd eraill ym Mhrydain. Rwyf am eu helpu i fod yn gynaliadwy yng Nghymru ac i gadw at safonau rhagorol o ran lles anifeiliaid.”