Neidio i'r prif gynnwy

£10 miliwn yn ychwanegol i gefnogi cenhadaeth Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru erbyn 2027.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys yr awdurdodau lleol, asiantaethau digartrefedd a chlymblaid Cymru ar gyfer rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc, i helpu pob ifanc i osgoi sefyllfaoedd argyfwng a'u cefnogi i ddod o hyd i lety sefydlog.

Ac yntau'n siarad ym mhencadlys Llamau yng Nghaerdydd, dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae gormod o bobl ifanc yn wynebu dyfodol sy'n gallu ymddangos yn ddiflas, yn annheg ac yn anochel - byw heb gartref, prin yn ymdopi o ddydd i ddydd, cael eu gorfodi i symud o dŷ i dŷ, neu'n waeth byth, cysgu ar y stryd.

“Dyna pam rwy'n arwain cenhadaeth deng mlynedd i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru.

“Yng Nghymru mae gennym  ddeddfwriaeth sydd ymhlith y fwyaf  blaengar ym maes digartrefedd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, sydd wedi atal 11,514 o aelwydydd rhag dod yn ddigartref rhwng cael ei chyflwyno yn Ebrill  2015 a diwedd Mehefin 2017.

“Ac eto, rwy'n parhau i glywed am bobl ifanc sy'n dod yn ddigartref ar ôl ymadael â gofal, pobl ifanc sy'n cefnu ar addysg a phobl ifanc sydd heb unrhyw le arall i aros ond lle Gwely a Brecwast. Nid yw hyn yn ddigon da.

“Rhaid i Gymru arwain y ffordd o ran mynd i’r afael â digartrefedd. Dw i am inni fod yn fentrus - i fynd ati mewn ffyrdd newydd, i ganolbwyntio ar ymyriadau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn a gweithio gyda phartneriaid i helpu pob ifanc i osgoi sefyllfaoedd argyfwng a'u cefnogi i ddod o hyd i lety sefydlog.”

Dywedodd Frances Beecher, Prif Swyddog Gweithredol Llamau:

“Rydyn ni'n credu bod gennyn ni gyfle gwych yng Nghymru i gyflwyno newid gwirioneddol. Yn ôl yr amcangyfrifon mae dros 7,000 o bobl ifanc yn gofyn am help gyda digartrefedd, ond rydyn ni'n gwybod nad yw llawer mwy o bobl ifanc yn gwybod ble i droi am gymorth pan fyddan nhw'n ddigartref.

“Mae cyhoeddiad heddiw'n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r mater hwn, ac rydyn ni'n edrych ymlaen  at gydweithio â nhw i sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth pan maent ei angen ac i sicrhau mai rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol yw digartrefedd.”