Bydd yr arian gan Lywodraeth Cymru yn helpu i dalu'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â chyflwyno’r cyflog byw cenedlaethol.
Bydd y buddsoddiad newydd yn rhan o gytundeb tair ffordd a gaiff ei sefydlu rhwng Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a chyflogwyr gofal cymdeithasol i gydweithio i greu gweithlu gofal cymdeithasol mwy sefydlog.
Bydd yr arian gan Lywodraeth Cymru yn helpu i dalu'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â chyflwyno’r cyflog byw cenedlaethol. Mae'n atodol i’r swm ychwanegol o £25 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol, a gyhoeddwyd yng nghyllideb ddrafft 2017-18 ym mis Hydref.
Bydd cyllid pellach i gefnogi gofal cymdeithasol yn 2017-18 ar gael wrth i’r uchafswm tâl wythnosol ar gyfer gofal cartref godi o £60 i £70.
Dywedodd y Gweinidog dros Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:
“Yng Nghymru, rydym wedi blaenoriaethu gofal cymdeithasol fel sector o bwysigrwydd strategol cenedlaethol.
“Mae degau o filoedd o bobl yn dibynnu ar y gwasanaethau hanfodol hyn bob dydd. Rydym yn gwybod bod y sector yn hollbwysig i system gofal iechyd ehangach sy’n cael ei redeg yn effeithiol a dyna pam yr ydym yn cefnogi integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol drwy ein Cronfa Gofal Canolraddol gwerth £60m.
“Rydym wedi ymgysylltu â'n partneriaid gofal cymdeithasol i ddeall y materion sy'n wynebu'r sector – mae effaith ariannol rhoi cyflog byw cenedlaethol Llywodraeth y DU ar waith wedi dod i'r amlwg fel pryder sylfaenol.
“Rwyf yn cadarnhau heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £10m yn ychwanegol y flwyddyn i helpu i reoli effaith y cyflog byw cenedlaethol. Bydd hyn hefyd yn cefnogi gwaith i greu gweithlu sydd wedi’i gofrestru’n llawn erbyn 2022.
"Mae'r buddsoddiad hwn yn sail i ymrwymiad ar y cyd rhwng partneriaid – byddwn ninnau’n darparu arian, bydd yr awdurdodau lleol yn buddsoddi mewn darparu gwasanaethau a bydd cyflogwyr yn creu gweithlu mwy gwerthfawr, gan leihau trosiant uchel yn achos staff profiadol."
Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd y bydd yr uchafswm tâl y gellir ei godi ar bobl ar gyfer gofal cartref a gofal amhreswyl arall yn cynyddu o £60 yr wythnos i £70 o fis Ebrill 2017.
Bydd y codiad yn cydategu'r buddsoddiad ychwanegol gwerth £10m y flwyddyn, gan sicrhau bod gofal ledled Cymru’n parhau i fod o ansawdd da. Mae'r cynnydd yn adlewyrchu’r angen i fuddsoddi mewn gofal cartref ac yn cymryd i ystyriaeth chwyddiant dros y cyfnod o ddwy flynedd y bu’r uchafswm tâl presennol o £60 ar waith.
Bydd yn codi mwy na £4m y flwyddyn mewn incwm ychwanegol i’r awdurdodau lleol ei ddefnyddio i fynd i'r afael â phwysau yn y sector gofal cymdeithasol, gan gynnwys pwysau ariannol a achosir oherwydd cyflwyno’r cyflog byw cenedlaethol.
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Ochr yn ochr â’n buddsoddiad cylchol o £10m, rwyf hefyd wedi bod yn ystyried yr uchafswm tâl ar gyfer gofal cartref. Credaf ei bod yn bryd iddo gael ei godi erbyn hyn.
“Gyda'i gilydd, bydd y cyhoeddiadau hyn yn golygu bod miliynau o bunnoedd yn ychwanegol y flwyddyn yn cael eu buddsoddi mewn gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn sicrhau ein bod i gyd yn elwa ar sector cryf a chynaliadwy sy'n addas at y dyfodol."
Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Llefarydd CLlLC ar Ofal Cymdeithasol:
"Rydym yn croesawu'r swm ychwanegol o £10m i helpu i ariannu rhoi’r cyflog byw cenedlaethol ar gyfer gweithwyr gofal ar waith. Yn yr un modd mae'r penderfyniad i godi’r uchafswm tâl ar gyfer gofal cartref o £60 i £70 yn gam buddiol i’r cyfeiriad cywir ac ym marn CLlLC bydd angen ei gynyddu ymhellach yn y blynyddoedd i ddod i helpu i dalu rhai o'r costau ychwanegol.
“Dros y cyfnod nesaf mae CLlLC yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Gweinidog i greu fframwaith ariannol cynaliadwy i lywodraeth leol sy’n mynd i'r afael â heriau enfawr presennol gofal cymdeithasol. Mae’r priod sefyllfaoedd polisi yng Nghymru yn wahanol iawn i’w gilydd o ran y mater hwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol gwasanaethau ataliol y mae'r datganiad hwn yn eu cadarnhau.”