Y prif ffocws yw gwella ansawdd gofal, lleihau amrywiad a gwella'r canlyniadau i gleifion.
Y prif ffocws yw gwella ansawdd gofal, lleihau amrywiad a gwella'r canlyniadau i gleifion. Bydd y buddsoddiad yn cael ei gyfeirio tuag at y gwasanaethau sy’n dod â'r manteision ehangaf posib i'r nifer fwyaf o bobl.
Fel y cyhoeddwyd y llynedd, bydd £3 miliwn yn cael ei fuddsoddi i gyflawni'r llwybr gofal unigol ar gyfer canser. Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gymryd y cam hwn. Nod y llwybr gofal unigol ar gyfer canser yw lleihau'r amser y mae cleifion yn aros i gael profion i roi diagnosis o ganser ac i'w triniaeth ddechrau. Pan fydd y llwybr gofal newydd yn ei le, bydd amser aros y claf yn cychwyn o'r adeg pan fo amheuaeth o ganser yn hytrach nag adeg y diagnosis.
Bydd £3m arall yn cefnogi gwasanaethau diagnostig gan gynnwys endosgopi a radioleg yn ogystal â thriniaethau newydd fel therapi genynnol a chelloedd.
Bydd sylw hefyd i wasanaethau adsefydlu, a fydd yn cael £3m o gyllid. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i asesu sut mae gwasanaethau allweddol yn cael eu darparu ar hyn o bryd. Bydd yn canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn fuan yn y gymuned, gan helpu i osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty.
Bydd y £1m sy'n weddill yn cael ei rannu rhwng gwella 1,000 o Fywydau a datblygu gofal iechyd ar sail gwerth.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:
"Bydd yr arian a gyhoeddais heddiw yn sicrhau bod gwasanaethau iechyd Cymru yn datblygu atebion arloesol ac yn gwneud yn siŵr bod cleifion yn cael y gorau allan o'r gwasanaethau iechyd.
"Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i greu ffyrdd gwell o ddarparu gwasanaethau; yn darparu gofal cyson ar draws Cymru, ac yn arwain at well canlyniadau i bobl Cymru."