Mae rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer gwelliannau er mwyn arbed ynni mewn cartrefi incwm isel a chartrefi mewn cymunedau difreintiedig ledled Cymru.
Mae rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys cynlluniau Nyth ac Arbed, yn darparu cyllid ar gyfer gwelliannau er mwyn arbed ynni mewn cartrefi incwm isel a chartrefi mewn cymunedau difreintiedig ledled Cymru.
Mae'r swm o £104 miliwn yn cynnwys £32 miliwn o'r £40 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd yn y Gyllideb Derfynol fis diwethaf. Bydd yr £8 miliwn sy'n weddill yn cael eu buddsoddi mewn mentrau twf gwyrdd eraill.
Bydd y cyllid hwn oddi wrth Lywodraeth Cymru hefyd yn ysgogi rhyw £24 miliwn o gyllid Ewropeaidd, yn ogystal â chyllid o dan y Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO).
Cyhoeddodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, y cyllid yn ystod ymweliad â Trowbridge i weld sut y mae aelwydydd yno wedi elwa ar gyllid a gafwyd o dan gynllun Arbed yn y gorffennol.
Llwyddodd Cyngor Sir Caerdydd i ddenu rhagor o gyllid grant Arbed yn ddiweddar ac mae'r niferoedd sydd wedi manteisio arno wedi bod yn hynod gadarnhaol. Roedd dros 75% o’r trigolion wedi cofrestru i gael arolwg ymhen pythefnos i'r diwrnod yr agorodd y cynllun ar gyfer ceisiadau.
Erbyn hyn, mae dros 300 o gartrefi yn yr ardal yn rhan o gynllun Arbed, a bydd 100 arall yn ymuno ag ef yn ystod y misoedd nesaf.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Yn ystod misoedd y gaeaf, mae sut i gadw'n gynnes a thalu biliau ynni uchel yn achosi pryder gwirioneddol i nifer o aelwydydd incwm isel ledled Cymru. Dw i'n hynod falch, felly, ein bod yn ymrwymo £140 miliwn i'n rhaglen Cartrefi Clyd dros y pedair blynedd nesaf.
“Nod y Rhaglen Cartrefi Clyd yw gwella cartrefi, er enghraifft, drwy uwchraddio boeleri a systemau gwresogi a thrwy inswleiddio llofftydd, er mwyn sicrhau eu bod yn defnyddio ynni'n fwy effeithlon. Mae hynny, yn ei dro, yn golygu bod biliau'n is a bod llai o ynni'n cael ei ddefnyddio, gan leihau'r newid yn yr hinsawdd.
"Mae pwyslais hefyd ar ddefnyddio'r gadwyn gyflenwi leol i wneud y newidiadau hyn, gan greu swyddi, datblygu sgiliau a rhoi hwb i'r economi leol."
Yn ôl Mr a Mrs Foley, sydd wedi elwa ar waith i inswleiddio waliau allanol eu cartref yn ystod ail gam cynllun effeithlonrwydd ynni Trowbridge:
"Mae'n cartref yn edrych yn hyfryd erbyn hyn, ond rydyn ni hefyd wedi arbed £200 ar ein biliau ynni mewn cwta 6 mis! Mae'r cyngor gawson ni am ynni wedi bod yn ddefnyddiol tu hwnt. Rydyn ni wedi cael cynghorion syml ar gyfer ein bywydau bob dydd. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn bod y cynllun hwn ar gael."