£100 miliwn yn cael ei fuddsoddi dros y tair blynedd nesaf i gyflymu’r Rhaglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Mae £75m ychwanegol wedi’i ddyrannu i’r Rhaglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif – sy’n rhaglen fuddsoddi strategol, hirdymor a phwysig gyda’r nod o foderneiddio seilwaith y sector addysg.
Yn ogystal, caiff £30m ei ryddhau o flynyddoedd nesaf y prosiect i’w fuddsoddi ar unwaith mewn prosiectau cyfalaf a fydd yn cyfrannu at gyflawni’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Blaenoriaeth a rennir gyda Phlaid Cymru yw hon.
Daw’r arian hwn â’r cyfanswm sydd wedi’i fuddsoddi dros gyfnod y rhaglen gyfan i bron i £3.8 biliwn. Daw cam cyntaf y rhaglen i ben yn 2019 ar ôl i £1.4 biliwn gael ei fuddsoddi i gefnogi’r gwaith o ailadeiladu ac ailwampio mwy na 150 o ysgolion a cholegau ledled Cymru. Caiff £2.3 biliwn arall ei wario yn ystod yr ail gam.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Cenhadaeth ein cenedl yw codi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad, a darparu system addysg y gallwn fod yn falch ohoni fel gwlad. Mae’r Rhaglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn rhan bwysig o hyn – dyma’r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a’n colegau ers y 60au.
“Mae cael amgylchedd modern, cyffyrddus, addas-at-y-diben i ddysgu ynddo yn hollbwysig i sicrhau bod pobl ifanc yn cael yr addysg orau posib. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn golygu y bydd mwy fyth o’n dysgwyr yn gallu manteisio ar y cyfleusterau gorau posibl yn eu hysgolion a’u colegau.
Dywedodd Eluned Morgan:
“Mae cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn her sylweddol ac mae addysg yn allweddol i wireddu’r uchelgais. Golyga hyn fuddsoddi mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd a chynyddu a gwella’r addysgu Cymraeg a wneir mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae rhyddhau’r cyllid hwn er mwyn ei fuddsoddi ar unwaith yn golygu na fydd oedi wrth inni ymdrechu i gyflawni’r targed hwn.