Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi cyhoeddi bod dros £100,000 yn cael ei neilltuo i gryfhau’r sector gofal plant yng Nghymru.
Defnyddir yr arian ychwanegol i gynyddu nifer y lleoedd gofal plant sydd ar gael ledled Cymru, gan gynnwys yn Abertawe, Blaenau Gwent, Sir y Fflint, Rhondda Cynon Taf, Caerffili a Gwynedd ac Ynys Môn. Dyma’r saith awdurdod lleol a ddewiswyd i weithio gyda Llywodraeth Cymru i dreialu’r ddarpariaeth gofal plant newydd o fis Medi 2017.
Bydd yr arian yn helpu busnesau gofal plant i reoli’u harian yn well a’u helpu i gael mwy o’r cymorth a’r cyngor sy’n cael eu targedu gan wasanaeth helpu busnesau Llywodraeth Cymru, Busnes Cymru.
Wrth siarad am yr arian, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:
“Un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yw datblygu gwasanaeth gofal plant hyblyg, ac elfen bwysig o’r her yw sicrhau bod lleoedd gofal plant ar gael i deuluoedd ym mhob rhan o’r wlad.
“Mae’r arian ychwanegol rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn helpu i ddarparu hyd at 450 o leoedd gofal plant ychwanegol yng Nghymru dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd yn cael ei ddefnyddio hefyd i wella’r cymorth busnes sydd ar gael i’r sector gan gynnwys gwarchodwyr plant ac i helpu busnesau i ofalu am eu harian yn well a thyfu mewn ffordd gynaliadwy.
“Yn y pen draw, caiff ei ddefnyddio i gryfhau a datblygu cydnerthedd y sector gofal plant yng Nghymru fel ei fod mewn sefyllfa dda i allu darparu’r gofal plant hyblyg rydym yn gwybod sydd ei eisiau a’i angen ar deuluoedd ar draws Cymru.”
Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant:
“Trwy allu manteisio ar ofal plant fforddiadwy o’r ansawdd gorau, mae rhieni’n gallu gweithio. Bydd hynny’n helpu’r economi i dyfu ac yn helpu i drechu tlodi a lleihau anghydraddoldebau. Mae’n rhoi cyfleoedd a manteision tymor hir hefyd i’n plant ac yn gwella’u cyfleoedd mewn bywyd.
“Rwy’n croesawu’r arian ychwanegol hwn ar gyfer gofal plant yng Nghymru ac rwy’n disgwyl ymlaen at weithio gydag Ysgrifennydd yr Economi a’r sector i gynyddu nifer y lleoedd gofal plant sydd ar gael.”
Bydd Busnes Cymru’n dechrau cynnig help proactif i fusnesau yn y sector gofal plant yn yr Hydref.