Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddir yr arian i wella cyfleusterau toiledau yn ein hysgolion ac i helpu i fynd i’r afael â thlodi misglwyf yn ein cymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd awdurdodau lleol yn derbyn £440,000 dros y ddwy flynedd nesaf i fynd i’r afael â thlodi misglwyf yn eu cymunedau lle mae lefelau amddifadedd ar eu huchaf. Byddan nhw’n derbyn £700,000 o gyllid cyfalaf hefyd er mwyn gwella cyfleusterau a chyfarpar mewn ysgolion – gan wneud yn siŵr y gall pob merch a menyw ifanc gael mynediad i gyfleusterau hylendid da pan fyddan nhw eu hangen. 

Meddai Julie James AC, Arweinydd y Tŷ: 

“Cynghorau lleol sydd yn y sefyllfa orau i wybod ym mhle mae angen gweithredu’n effeithiol er mwyn trechu tlodi misglwyf yn eu cymunedau, a dyna pam rydyn ni’n gofyn iddyn nhw ddefnyddio’r cyllid hwn i ddosbarthu cynhyrchion hylendid benywaidd i’r rhai sydd â’r angen mwyaf.

“Gallai hyn ddigwydd drwy grwpiau cymunedol, ysgolion neu fanciau bwyd. Rydyn ni wedi clywed adroddiadau bob mamau yn mynd heb er mwyn gwneud yn siŵr y gall eu merched gael gafael ar gynhyrchion hylendid ac mae hyn yn gwbl annerbyniol yn y gymdeithas sydd ohoni. 

“Bydd y cyllid hwn yn helpu i fynd i’r afael â’r angen gwirioneddol hwn.

“Bydd cyllid yn cael ei ddefnyddio i wella cyfleusterau toiledau yn ein hysgolion hefyd. Rydyn ni’n gwybod, diolch i waith ymchwil, bod llawer o ferched yn dechrau eu misglwyf yn iau, ac er bod gan ysgolion uwchradd yn aml iawn y cyfleusterau angenrheidiol yn eu lle, prin ydyn nhw mewn ysgolion cynradd.  

“Hoffwn sicrhau bod gan bob merch a menyw ifanc sy’n astudio mewn ysgolion yng Nghymru fynediad i gyfleusterau priodol sy’n rhoi iddyn nhw’r urddas y maen nhw’n ei haeddu.” 

Yn ôl Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg :

“Mae iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol ein disgyblion yn hollbwysig. Bydd y cyllid hwn yn helpu i sicrhau bod y cyfleusterau hyn yn ein hysgolion yn diwallu anghenion menywod ifanc a merched.  

“Rydyn ni am i’n holl bobl ifanc gyrraedd eu potensial yn llawn y tu mewn i’r ystafell ddosbarth a’r tu allan iddi a bydd y cyllid hwn yn helpu i wneud yn siŵr eu bod yn teimlo bod yna gefnogaeth briodol iddyn nhw.”