Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau 2025 drwy ddyfarnu hyd at £10 miliwn o gyllid grant i 32 o brosiectau ynni gwyrdd cymunedol ym mhob cwr o Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dewiswyd y prosiectau llwyddiannus ar ôl proses ymgeisio gystadleuol iawn, a byddant yn cael eu cyflwyno dros y misoedd nesaf. Mae'r prosiectau'n cynnwys popeth o baneli solar a phympiau gwres i fatris storio ynni a mannau gwefru cerbydau trydan. Byddant o gymorth i wella'r defnydd o ynni ar draws ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys ysgolion, canolfannau hamdden, cartrefi gofal, parciau busnes, canolfannau cymunedol a chanolfannau gweithgareddau.

Mae'r cyllid hwn yn rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru yn ei rhaglen Ynni Cymru, a sefydlwyd er mwyn cefnogi a gwireddu'r manteision enfawr sy'n deillio o seilwaith cynhyrchu ynni sydd mewn perchnogaeth leol a Systemau Ynni Clyfar Lleol.

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:

Mae'r manteision eang sy'n gysylltiedig â rhwydweithiau a chynhyrchu ynni mewn ffyrdd mwy clyfar a gwyrdd yn gwbl glir – ac rydym wedi ymrwymo i wneud hynny ar bob graddfa.

Er bod technoleg arloesol a seilwaith cenedlaethol yn cael eu datblygu'n gyflym ar draws safleoedd strategol yng Nghymru, mae'r un mor bwysig ein bod yn parhau i gefnogi twf prosiectau arloesol mwy clyfar, sy'n cael eu sbarduno'n lleol.

Roedd diddordeb aruthrol yn y cymorth hwn, ac mae hynny'n tystio i'r awydd enfawr am systemau ynni glân, mwy clyfar sy'n cadw'r budd yn ein cymunedau ac yn lleihau'r angen am seilwaith ar raddfa fawr.

Dw i'n falch iawn o allu cefnogi cynifer o brosiectau o ansawdd. Bydd pob un ohonyn nhw'n cael effaith gadarnhaol ar yr holl bobl fydd yn eu defnyddio.

Dw i'n edrych 'mlaen at weld Ynni Cymru yn parhau i gefnogi ystod o wasanaethau a chyfleusterau lleol, ac yn parhau hefyd i gyfrannu at ein hymrwymiadau carbon isel.