Neidio i'r prif gynnwy

Aeth y Gweinidog dros Blant, Huw Irranca-Davies, heddiw i weld rhaglenni sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i blant yn Wrecsam.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ymweliad cyntaf y Gweinidog oedd Prosiect Ieuenctid a Chwarae Coedpoeth sydd wedi elwa ar gael Grant Cyfleoedd Chwarae Llywodraeth Cymru er mwyn mynd ati i gyflwyno darpariaeth ar gyfer chwarae a gwaith ieuenctid yn y gymuned leol.

Un o amcanion y prosiect yw hwyluso cysylltiadau rhwng plant o wahanol oedran. Dechreuodd y prosiect gyda dim ond cynhwysydd morgludiant bach a gafodd ei roi fel adnodd i'w defnyddio ganddynt ond erbyn hyn mae safle mwy sylweddol wedi'i insiwleiddio ar gael i blant a phobl ifanc sy'n cynnig mwy o loches y gallant ei berchnogi eu hunain. Bydd hyn hefyd yn help i godi proffil y prosiect yn lleol. Fe wnaeth dros 140 o bobl ifanc gymryd rhan yn y prosiect rhwng mis Ebrill 2017 a mis Ebrill 2018.

Aeth y Gweinidog yn ei flaen wedyn i ymweld â grŵp 'Take Five' ym Mharc Caia sy'n cynnig sesiynau wythnosol i gefnogi iechyd meddwl amenedigol mamau o'r cyfnod cynenedigol hyd nes bydd y plentyn yn flwydd oed. O fewn y grŵp, mae gan y mamau gyfle i roi cynnig ar weithgareddau a phrofiadau newydd sydd wedi'u cynllunio at ddibenion gwella llesiant. Mae'r grŵp yn cwrdd ddwywaith yr wythnos ac mae 90 y cant o'r teuluoedd sy'n mynychu yn elwa ar gynllun Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru.

Yn dilyn ei ymweliadau, dywedodd Huw Irranca-Davies:

"Roeddwn i wrth fy modd cael ymweld â Phrosiect Ieuenctid a Chwarae Coedpoeth a grŵp 'Take Five' sydd â rhan bwysig i'w chwarae yn gwella bywydau pobl sy'n byw yn ardal Wrecsam.

"Yng Nghoedpoeth, mae plant a phobl ifanc yn cael eu dwyn ynghyd i gymryd rhan mewn nifer o gyfleoedd chwarae sy'n werthfawr iawn ac i fwynhau treulio eu hamser hamdden gyda'i gilydd mewn modd a fydd yn helpu i ddatblygu eu lles meddyliol a chorfforol.

"Mae'r grŵp Take Five ym Mharc Caia yn hanfodol hefyd i ddiwallu anghenion mamau amenedigol sy'n dangos arwyddion o ddatblygu problemau iechyd meddwl ôl-enedigol neu sydd mewn perygl o ddatblygu problemau o'r fath.

"Mae'r rhaglenni hyn yn helpu i gryfhau teimladau o hapusrwydd, boddhad a bod yn rhan o rywbeth sydd yn ei dro yn helpu i greu profiadau cadarnhaol yn eu bywydau. Mae'r ymweliadau heddiw yn dangos y gwahaniaeth gwirioneddol mae cyllid gan Lywodraeth Cymru yn ei wneud."