Neidio i'r prif gynnwy

Taliadau i reolwyr tir ac eraill i wneud ein hecosystemau'n gryfach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym wedi ymrwymo i reoli adnoddau naturiol ar lefel ecosystem.

Rydym bob tro'n chwilio am y canlynol:

  • ffyrdd newydd ac arloesol o ddenu arian i economi cefn gwlad
  • sut i gael y gorau o bob punt a fuddsoddir

Mae yna lawer o grwpiau sy'n gweithio ar brosiectau a mentrau sy'n cael eu hystyried yn brosiectau PES. Maen nhw'n derbyn arian o amrywiaeth o leoedd. I gael mwy o wybodaeth, ewch i'r wefan: Ecosystems Knowledge Network.

Grŵp Ymarferwyr Taliadau am Wasanaethau Ecosystem (PES).

Mae grŵp ymarferwyr PES yn gymuned o bobl sy'n gweithio yn y maes. Mae'r grŵp yn cwrdd 2 - 3 gwaith y flwyddyn i:

  • gefnogi'i gilydd
  • trafod pynciau llosg
  • rhannu'r gwersi a ddysgwyd a'u harferion gorau
  • cyfrannu at ddatblygu polisïau PES